Scarlets a VX3 yn cyhoeddi partneriaeth cit a manwerthu hirdymor

Rob LloydNewyddion

Mae’r Scarlets yn falch o gyhoeddi cytundeb cit a manwerthu hirdymor gyda VX3, sydd i gychwyn o fis Gorffennaf.

Bydd y bartneriaeth gyffrous yma yn gweld VX3 yn cymryd drosodd gweithrediadau manwerthu ym Mharc y Scarlets ac ar-lein, gan nodi cam sylweddol ymlaen i’r clwb ac i’r brand.

Mae’r cytundeb hwn yn dal arwyddocâd arbennig i VX3, a sefydlwyd yn wreiddiol yn Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin.

Fel rhan o’r cytundeb, bydd swyddfeydd Cymraeg VX3 wedi’u lleoli ym Mharc y Scarlets, gan atgyfnerthu’r cysylltiad dwfn gyda’r rhanbarth.

Yn ogystal â darparu cit a gwasanaethau manwerthu o safon uchel, mae VX3 wedi ymrwymo i ymgysylltu gyda’r gymuned, trwy helpu maethu rygbi cymunedol a chryfhau’r cysylltiadau ar draws y rhanbarth.

“Mae’r bartneriaeth yma yn cynrychioli carreg filltir enfawr i VX3, rydym yn falch iawn i gydweithio gyda chlwb sydd yn rhannu’r un angerdd am ragoriaeth, y gymuned, a dyfodol rygbi Cymru,” dywedodd Dylan Petche, Cyfarwyddwr VX3.

“Edrychwn ymlaen at greu dyfodol disglair gyda’n gilydd!”

Fe all cefnogwyr y Scarlets edrych ymlaen at grysau a dillad hamdden gyffrous, a fydd yn cael eu datgelu dos yr haf.

Yn croesawu VX3 i Deulu’r Scarlets, dywedodd Rheolwr Cyfarwyddwr y Scarlets Jon Daniels: “Rydym wrth ein bodd i groesawu VX3 fel ein partneriaid cit a manwerthu newydd. Maent yn gwmni a sefydlwyd cwpl o filltiroedd i ffwrdd yn Cross Hands ac yn rhannu’r un gwerthoedd a balchder yn ein cymuned.

“Edrychwn ymlaen at ddadorchuddio ein dyluniadau newydd am dymor 2025-26 ac at weithio’n agos gyda VX3 ar sawl prosiect cyffrous dros y misoedd nesaf.”

Ychwanegodd Pennaeth Masnachol y Scarlets Garan Evans: “Mae wedi bod yn wych i gydweithio â Dylan a’r tîm ar y crysau a’r dillad ymarfer newydd dros y misoedd diwethaf ac fe all ein cefnogwyr disgwyl newidiadau cyffrous ar eu profiad o siopa ym Mharc y Scarlets hefyd.”