SCARLETS DAN 18 YN HERIO’R GWEILCH

Natalie Jones

Fe fydd y Scarlets ifanc, sydd heb golli gêm hyd yn hyn y tymor hwn, yn wynebu’r Gweiclh ar gae Aberafan nos Fawrth, 30ain Ionawr, yn rownd olaf ond un pencampwriaeth graddau oed URC.

Mae’r Scarlets wedi sicrhau wyth buddugoliaeth pwynt bonws o wyth gêm ac roedd y fuddugoliaeth dros Gleision y De wythnos diwethaf yn ddigon i’r Scarlets ifanc gipio’r bencampwriaeth gyda dwy gêm mewn llaw.

Gyda’r gêm olaf i’w chwarae ym Mharc y Scarlets wythnos nesaf, Mawrth 6ed Chwefror, mewn noson o ddahtlu i’r tîm ifanc fe fydd yr hyfforddwyr a’r chwaraewyr yn gobeithio cadw’r momentwm a’r record yn fyw yn y ddwy rownd olaf.

Fe fydd y Scarlets yn croesawu’r Gweilch i gae Aberafan nos Fawrth 30ain Ionawr, cic gyntaf 7YH.

Tîm Scarlets dan 18 i wynebu’r Gweilch;

15 Dean James, 14 Harri Dole, 13 Joe Roberts, 12 Osian Knott, 11 Alex Varney, 10 Llew Smith, 9 Dai Jones, 1 Callum Williams, 2 Llew Phillips-Taylor, 3 Adam Thomas, 4 Owen Jones, 5 Jac Price, 6 Iestyn Rees, 7 Jac Morgan, 8 Sam Williams

Eilyddion; 16 Dom Booth, 17 Oliver Robb, 18 Iwan Twigg, 19 Ryan Evans, 20 Harry McBryde, 21 Dafydd Land, 22 Bradley Roderick, 23 Liam Cox