Scarlets ifanc i wynebu RGC ar y Parc

vindico Newyddion

Fe fydd Scarlets dan 18 yn wynebu RGC1404 ym Mharc y Scarlets prynhawn yma wrth iddynt obeithio parhau â’u buddugoliaeth ym mhencampwriaeth Graddau Oed URC.

Sicrhaodd y Scarlets ifanc ei chweched buddugoliaeth pwynt bonws nos Fercher ac fe fyddan nhw’n gobeithio parhau hwnnw heddiw.

Dewch i gefnogi cenhedlaeth nesaf y rhanbarth. Mynediad £3 i oedolion, plant dan 16 am ddim.

Tîm y Scarlets i wynebu RGC 1404 ym Mharc y Scarlets, Sul 14eg Ionawr cic gyntaf 2.30YP;

15 Dean James, 14 Harri Dole, 13 Joe Roberts, 12 Bradley Roderick, 11 Alex Varney, 10 Llew Smith, 9 Dai Jones, 1 Callum Williams, 2 Llew Phillips-Taylor, 3 Adam Thomas, 4 Jac Price, 5 Owen Jones, 6 Harry Breeze, 7 Jac Morgan, 8 Sam Williams

Eilyddion: 16 Josh Bowen, 17 Keelan Jewell, 18 Iwan Twigg, 19 Ryan Evans, 20 Harry McBryde, 21 Dafydd Land, 22 Josh Davies, 23 Eray Wilson