Dau newid i’r Scarlets i wynebu Ulster

Rob Lloyd Newyddion

Mae’r Scarlets wedi cyhoeddi dau newid i’r tîm i wynebu Ulster yn rownd saith o’r Guinness PRO14 nos Sul (7:35yh).

Angus O’Brien sydd i ddechrau fel cefnwr yn dilyn galwad Johnny McNicholl i garfan Cymru, gyda Ryan Conbeer a Steff Evans i’w ymuno fel asgellwyr.

Danny Drake bydd yn cymryd lle Morgan Jones yn yr ail reng wrth i Morgan orfod hunan-ysu ar ôl iddo fod mewn cysylltiad agos â Covid.

Canolwr Steff Hughes yw’r capten, a fydd yn cadw’r bartneriaeth gyda Paul Asquith yng nghanol y cae, wrth i Dan Jones a Dane Blacker ymuno eto fel haneri.

Yn y rheng flaen mae Rob Evans, Taylor Davies a Javan Sebastian, wrth i Ed Kennedy, Jac Morgan a Sione Kalamafoni greu’r rheng ôl.

Gwelir newidiadau ar y fainc gyda Jac Price a Sam Costelow yn ymuno’r garfan.

Dywed hyfforddwr y blaenwyr Richard Kelly: “Roedd buddugoliaeth wythnos diwethaf yn erbyn Connacht wedi rhoi hwb i’r bois a chreu awyrgylch da yn camp.”

“Rydym nawr ar fin wynebu’r ddau ochr gorau yn y gystadleuaeth (Ulster a Leinster) o fewn y pythefnos nesa’, ond rydym yn edrych ymlaen at y sialens. Mae ‘na ddigon o dalent gyda ni ac mae’r bois i gyd yn ymwybodol bod angen i ni chwarae ar ein gorau. Mae’n amser cyffrous iawn i ni.”

“Wrth edrych ar berfformiad Ulster dros y chwe wythnos ddiwetha’, mae ganddyn nhw gryfderau ar draws y cae. Er hyn, rydym wedi bod yn bositif iawn, ac yn barod i wynebu’r sialens yna.”

Scarlets (v Ulster, Dydd Sul, Tachwedd 21; 7.35yh)

15. Angus O’Brien; 14. Ryan Conbeer, 13. Steff Hughes (capt), 12. Paul Asquith, 11. Steff Evans; 10. Dan Jones, 9. Dane Blacker; 1. Rob Evans, 2. Taylor Davies, 3. Javan Sebastian, 4. Sam Lousi, 5. Danny Drake, 6. Ed Kennedy, 7. Jac Morgan, 8. Sione Kalamafoni

Reps: 16. Daf Hughes, 17. Phil Price, 18. Werner Kruger, 19. Jac Price, 20. Uzair Cassiem, 21. Will Homer, 22. Sam Costelow, 23. Tyler Morgan.

Ddim ar gael oherwydd anaf

Ddim ar gael oherwydd anaf Ken Owens (ysgwydd), Josh Macleod (llinyn y gar), Lewis Rawlins (gwddf), Marc Jones (groin), Tomi Lewis (penglin), Alex Jeffries (penelin), Tom Phillips (clun), Dylan Evans (ysgwydd), Aaron Shingler.