Scarlets yn arwyddo’r bachwr profiadol Marc Jones

Kieran Lewis Newyddion

Mae’r Scarlets heddiw yn gallu cadarnhau bod y bachwr Marc Jones wedi arwyddo cytundeb gyda’r rhanbarth o glwb Sale Sharks.

Mae Jones, 31, wedi chwarae bron 200 o gemau i Sale ers chwarae ei gêm gyntaf yno yn nhymor 2005-06.

Symudodd un o hoelion wyth pac Sale i Fryste ar gyfer tymor 2015-16 cyn dychwelyd i’r clwb lle fuodd am fron i ddegawd, Sale, ar gyfer tymor 2017-18.

Ganwyd Jones ym Mhontypridd cyn iddo symud i’r gogledd i ddilyn ei freuddwyd o chwarae rygbi ac fe setlodd yn Salford gyda’i deulu ifanc.

Mae Jones yn ychwanegiad cyffrous iawn i’r Scarlets; mae’n chwaraewr profiadol a fydd yn herio Ken Owens a Ryan Elias yn ogystal â chefnogi datblygiad y bachwyr ifanc Taylor Davies a Dafydd Hughes.

Dywedodd Wayne Pivac; “Ry’n ni’n bles iawn ein bod ni mewn sefyllfa i gadarnhau ein bod wedi cytuno cytundeb gyda Marc.

“Mae gyda ni ddau fachwr rhyngwladol yn Ken a Ryan a dau chwaraewyr cyffrous iawn yn Taylor a Daf. Mae Marc yn chwaraewr profiadol a fydd yn gwthio’n chwaraewyr profiadol ac fe fydd yn holl bwysig yn y cyfnodau rhyngwladol.”

Ychwanegodd Marc Jones; “Mae’r cyfle yma i ymuno â’r Scarlets yn un rwyf yn gyffrous iawn amdano ac rwy’n edrych ymlaen i ddechrau wythnos yma. Cefais fy ngeni a magu yng Nghymru ac roedd wastad yn uchelgais i ddychwelyd adref i chwarae rygbi.

“Rwy’n falch iawn fy mod wedi cynrychioli Sale Sharks am bron i ddegawd ond mae hwn yn gyfle yr wyf i a’r teulu yn edrych ymlaen yn fawr ato.

“Mae’r Scarlets wedi arwain y ffordd yn y tymhorau diweddar ac rwy’n edrych ymlaen i chwarae rôl yn y tymhorau sydd i ddod.”