Scarlets yn cyhoeddi partneriaeth newydd gydag Owens

Kieran Lewis Newyddion

Mae Owens Group, un o gwmniau cludiant a warysau mwyaf y DU, wedi arwyddo cytundeb profidiol gyda’r Scarlets cyn tymor 2018-19.

Mae’r cwmni cenedlaethol, sydd a’i prif swyddfa yn Llanelli, wedi bod yn gefnogwr brwd o’r rhanbarth ers blynyddoedd ac mae’r bartneriaeth newydd yn golygu bod logo’r cwmni yn ymddangos ar ysgwydd chwith y cit cartref ac oddi cartref. 

Ers ei sefydlu ym 1972, gan y brodyr Huw ac Eurof Owen, mae’r cwmni wedi parhau i fynd o nerth i nerth ac mae erbyn hyn yn sicrhau swyddi i dros 850 o bobl ar draws y wlad, yn rhedeg dros 1,000 o gerbydau gyda throsiant o dros £60 miliwn. 

Wrth groesawu Owens Group yn swyddogol, dywedodd Nathan Brew, Pennaeth Masnachol y Scarlets; “Ry’n ni’n falch iawn o groesawu Huw Owen a David Owen a phawb sydd ynghlwm â Owens Group i deulu’r Scarlets.

“Mae Owens yn rhan annatod o’r gymuned lleol yma yn Llanelli ac yng Ngorllewin Cymru, maent wedi cefnogi’r gymuned rygbi lleol ers blynyddoedd ac rwy’n credu’n gryf ein bod ni’n rhannu’r un syniadau am gefnogi’r gymuned ehangach. 

“Ry’n ni’n hynod o falch o fod yn gysylltiedig ag Owens ac ry’n ni’n edrych ymlaen at y bartneriaeth gyda hwy dros y tymorau nesaf.”

Mae Owens Group yn angerddol am weithio a gweithio yn eu cymunedau lleol; gyda lleoliadau ar draws y DU mae’r cwmni yn awyddus iawn i gyfrannu i’r cymunedau lleol.

Yn ogystal â chefnogi sefydliadau, elusennau, ysgolion a cholegau lleol mae’r cwmni yn ddiweddar wedi buddsoddi mewn treilars newydd sy’n ymddangos logo elusen Follow Your Dreams, sy’n cynnwys y cyn Scarlet Mike Phillips. Mae’r elusen yn un sy’n golygu lot i’r cwmni ac maent wedi casglu dros £7,000 i’r elusen. 

Dywedodd David Owen, Owens Group UK: “Mae Owens Group yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â’n rhanbarth lleol a brand byd-enwog y Scarlets. Ry’n ni’n hynod o gyffrous o weld ein logo ar grys cartref ac oddi cartref y Scarlets am y tro cyntaf. Ry’n ni’n edrych ymlaen at gefnogi’r garfan arbennig yma yn y tymor sydd i ddod ac ry’n ni’n dymuno pob llwydiant i bawb.”