Scarlets yn enwi tîm cryf ar gyfer gêm gartref cyntaf PRO14

Menna Isaac Newyddion

Fe fydd y Scarlets yn wynebu her gyffrous yn y Guinness PRO14 er ein bod ni ond yn ail rownd y bencampwriaeth.

Fe fydd y rhanbarth yn croesawu Leinster i Barc y Scarlets ar nos Sadwrn 8fed Medi, yng ngêm gartref cyntaf y tymor.

Er gaethaf anafiadau mae’r prif hyfforddwr Wayne Pivac wedi gallu enwi tîm cry fi wynebu’r Gwyddelod nos Sadwrn.

Mae pump chwaraewr rhynwladol wedi eu pasio’n holliach ar gyfer y gêm, Leigh Halfpenny, Johnny McNicholl, Hadleigh Parkes, Samson Lee a Jake Ball ac fe fyddan nhw yn y tîm cychwynol.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm ym Mharc y Scarlets dywedodd Pivac; “Mae’n rhaid i ni fod yn gorfforol yn erbyn Leinster. Fe wnaethon ni weld hynny yn y gemau yn eu herbyn tymor diwethaf.

“Mae hon yn gêm ry’n ni wedi edrych ymlaen ato. Fe fydd y gêm yma yn rhoi syniad i ni o lle ry’n ni. Mae’n mynd i fod yn her ddiddorol ond gêm anodd.”

.

.

Scarlets i wynebu Leinster, Parc y Scarlets, Sadwrn 8fed Medi, CG 19:35;

15 Leigh Halfpenny, 14 Johnny McNicholl, 13 Kieron Fonotia, 12 Hadleigh Parkes, 11 Tom Prydie, 10 Dan Jones, 9 Gareth Davies, 1 Rob Evans, 2 Ken Owens ©, 3 Samson Lee, 4 Jake Ball, 5 Steve Cummins, 6 Blade Thomson, 7 James Davies, 8 Josh Macleod

Eilyddion; Ryan Elias, Phil Price, Werner Kruger, Lewis Rawlins, Ed Kennedy, Sam Hidalgo-Clyne, Paul Asquith, Ioan Nicholas

Unavailable due to injury; Aaron Shingler, Jonathan Davies, Rhys Patchell, Wyn Jones, Uzair Cassiem, Dylan Evans, Jonathan Evans, Will Boyde, Angus O’Brien