Shingler ac Evans yn derbyn llawdriniaeth

Kieran Lewis Newyddion

Dioddefodd y reng ôl Aaron Shingler a’r mewnwr Jonathan Evans anafiadau yn rownd derfynol Guinness PRO14 penwythnos diwethaf, yn erbyn Leinster yn Stadiwm Aviva, Dulyn.

Gallwn gadarnhau bod y ddau yn gorfod derbyn llawdriniaeth i’r anafiadau; penglin (Shingler) a throed (Evans).

Ni fydd y naill chwaraewr na’r llall ar gael ar gyfer dechrau tymor 2018-19. Fe fyddwn mewn sefyllfa i ddiweddaru dyddiadau dychwelyd i chwarae disgwyliedig ar ôl y llawdriniaethau.