Fe wnaeth naw o’n chwaraewyr Academi chwarae yn y bedwaredd rownd o Super Rygbi Cymru.
Y chwaraewr ail reng Will Evans, maswr Steff Jac Jones a’r cefnwr Jac Davies ymddangosodd yn XV Llanymddyfri yn erbyn Ebbw Vale ar gae newydd artiffisial 3G Banc yr Eglwys.
Croesodd Evans a Davies am gais yr un yn ystod hanner cyntaf y gêm i’r Drovers, wrth i’r prop pen tynn Gabe Hawley dod oddi’r fainc yn yr ail hanner. Roedd y clo Morgan Jones hefyd yn bresenoldeb amlwg.
Roedd hi’n gêm heriol i Cwins Caerfyrddin yn y brifddinas, gyda’r tîm o’r Gorllewin yn colli’n drwm i Gaerdydd.
Yr olwyr talentog Iori Badham a Gabe McDonald dechreuodd tu ôl i’r sgrym, wrth i Keanu Evans wneud ei ddechreuad cyntaf i’r Cwins ar yr ochr agored. Y bachwr Isaac Young a’r mewnwr Rhodri Lewis oedd ar y fainc.
Ar Ddydd Iau bydd Llanymddyrfi yn teithio i Gasnewydd am gêm a fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C (7.30yh), wrth i’r Cwins cynnal Pontypool ym Mharc Caerfyrddin ar Ddydd Sadwrn (2.30yp).
Llun: Riley Sports Photography