Taylor i adael y Scarlets

Kieran Lewis Newyddion

Fe fydd Mark Taylor, Rheolwr y Scarlets, yn ymadael â’r rhanbarth yn syth oherwydd rhesymau personol.

Ymunodd Taylor, a enillodd 52 o gapiau dros Gymru ac fe gynrychiolodd y Llewod, cyn tymor 2016-17. Roedd Taylor yn rhan o’r staff rygbi pan gododd y Scarlets tlws Guinness PRO12 ym mis Mai 2017.

Fe fydd aelod o staff newydd yn cael ei recriwtio o fewn amser er mwyn sicrhau na chaiff paratoadau ar gyfer y tymor newydd eu heffeithio.

Dymunwn pob dymuniad gorau i Mark ar gyfer y dyfodol.