Tocynnau gemau ar werth heddiw!

Kieran Lewis Newyddion

Wrth i ni nesau at ddechrau tymor 2018-19 Guinness PRO14 ry’n ni’n falch iawn cadarnhau bod tocynnau ychwanegol ar werth am 16:00 heddiw, Gwener 3ydd Awst.

Mae tocynnau ar gyfer gêm gartref gyntaf y Scarlets, yn erbyn Leinster, ar werth yn barod ac mae yna bump gêm ychwanegol yn mynd ar werth heddiw.

Mae’r tocynnau i gyd ar gael am bris cynnar hyd at bedair wythnos cyn y gêm gyda’r tocynnau’n codi i’r pris llawn ar ôl hynny. 

Tocynnau gêm ar gael;

    • Scarlets v Leinster, Sadwrn 8fed Medi, CG 17:15
    • Scarlets v Benetton, Sadwrn 15fed Medi, CG 17:15
    • Scarlets v Southern Kings, Sadwrn 29ain Medi, CG 18:30
    • Scarlets v Ospreys, Sadwrn 6ed Hydref, CG 15:00
    • Scarlets v Ulster, Gwener 23ain Tachwedd, CG 19:35
    • Scarlets v Gleision Caerdydd, Sadwrn 29ain Rhagfyr, CG 17:15

Fe fydd y tocynnau ar werth yma o 16:00