Ry’n ni’n falch iawn cadarnhau bod tocynnau tymor 2018-19 ar gael o 10am heddiw, ar y we ac yn y swyddfa docynnau!
Mae gêm rownd wyth olaf y Scarlets yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop, yn erbyn La Rochelle, llai na phythefnos i ffwrdd. Yr unig ffordd o sicrhau eich lle yn y gemau ail gyfle tymor nesaf ym Mharc y Scarlets yw gyda thocyn tymor felly gwnewch yn siwr eich bod #ynypac!
Mae Tocyn Tymor y Scarlets yn rhoi cyfle i chi fwynhau’r cyffro ym Mharc y Scarlets i wylio 11 gêm Guinness PRO14 a thri gêm grwp yn y Cwpan Pencampwyr. Mae wedi bod yn dymor cyffrous iawn ac ry’n ni’n gobeithio y byddwch chi’n gallu ymuno â ni yn y pac tymor nesaf!
Dyddiadau Pwysig
Llun 19eg Mawrth i Llun 30ain Ebrill – Pris Cynnar ac Adnewyddu
Mawrth 1af Mai i Iau 31ain Mai – Pris Llawn ac Adnewyddu
Gwener 1af Mehefin – Rhyddhau pob sedd
Prisiau
Sut i adnewyddu / prynu?
Ar y we
Rwyt ti ond clic neu ddau o adnewyddu dy Docyn Tymor neu i ymuno â ni fel aelod newydd. Ewch i tickets.scarlets.wales i brynu eich tocyn.
Dros y Ffôn
Cysylltwch ar 01554 29 29 39 ac fe fydd un o’n haelodau staff yn gallu egluro’r broses i chi.
Yn y Swyddfa Docynnau
Mae’n bosib adnewyddu yn y Swyddfa Docynnau. Bydd angen dogfennau prawf ar gyfer unrhyw ostyngiadau
> Tocynnau Tymor ar werth o 10am heddiw