Tocynnau Tymor: Cynllun Talu Misol ar gael nawr

Kieran Lewis Newyddion

Gyda’r Scarlets yn paratoi ar gyfer rownd gyn derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop penwythnos nesaf, a miloedd o gefnogwyr yn paratoi i wneud y daith i Ddulyn, ry’n ni’n falch iawn cadarnhau bod y cynllun talu misol ar ein Tocynnau Tymor ar gael nawr!

Gyda llwyddiant diweddar yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop, a thaith i Ddulyn yn y dyddiadur i nifer penwythnos nesaf, ry’n ni’n deall efallai bod nifer ohono chi’n teimlo’n straen yn ariannol i gefnogi’ch hoff dîm ar hyn o bryd felly ry’n ni’n hynod o falch o gadarnhau eich bod chi’n awry n gallu talu’n fisol am Docyn Tymor 2018-19!

Fe fydd cyfnod prisiau cynnar ar ein Tocynnau Tymor yn dod i ben ar 30ain Ebrill sy’n rhoi digon o amser i chi rhoi’r cynllun talu misol mewn lle a chymryd mantais o docynnau rhatach!

Opsiwn 1: 6 taliad misol. 6.5% llog i’w dalu fel rhan o’r taliad cyntaf.

Opswin 2: 10 taliad misol. 9% llog i’w dalu fel rhan o’r taliad cyntaf.

Gwybodaeth ychwanegol: Mae’r cynllun ar gael trwy Zebra Finance. Bydd angen manylion gwaith a chyfeiriad am y tair blynedd diwethaf fel prawf. Fe fydd ceisiadau yn cael eu trosglwyddo i Zebra Finance. Gall cais gymryd hyd at 18 diwrnod i’w brosesu ac fe fydd angen talu’r taliad cyntaf yn syth wedi hynny.

Am wybodaeth pellach cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39.