Mae Tocynnau Tymor 2018-19 ar gael nawr ac ry’n ni’n falch iawn cadarnhau bod eich Tocyn Tymor yn rhoi mynediad i llond lle o gynigion arbennig ar draws y rhanbarth.
Nid yn unig y mae Tocyn Tymor y Scarlets yn rhoi mynediad i chi i holl gemau cartref arferol y tymor; 11 gêm Guinness PRO14 a thri gêm grwp Cwpan Pencampwyr Ewrop, fe gewch chi gyfle unigryw i brynu tocynnau i gemau ail gyfle yn y Parc a gostyngiadau i leoliadau ar draws y rhanbarth.
Gyda’r haf yn brysur agoshau beth am ddechrau cynllunio’ch gweithgareddau ac anturiaethau a chymryd mantais o’r cynigion arbennig sy’n gynwysedig gyda Thocyn Tymor?
Am gynlleied a £150 fe allwch chi brynu Tocyn Tymor Teulu a chael arian oddi ar gweithgareddau i’r teulu oll.
Mae Partneriaid Lleoliadau Tocyn Tymor y Scarlets yn cynnwys;
- Canolfan Gwlyptir WWT Llanelli
- Plas Llanelly
- Hangar 5 Trampoline Park
- Xcel Bowl Caerfyrddin
- Oakwood Theme Park
I ddysgu mwy am Docynnau Tymor 2018-19 cliciwch yma
I brynu Tocyn Tymor cliciwch yma