Williams i arwain y Scarlets yn Nydd y Farn

Kieran Lewis Newyddion

Mae’r Scarlets wedi enwi tîm cryf, gan gynnwys dim llai na deg chwaraewr rhyngwladol, ar gyfer yr ornest yn erbyn y Dreigiau fel rhan o Dydd y Farn VI yn Stadiwm Principality.

Fe fydd rownd olaf y tymor arferol yn gweld y Scarlets yn wynebu’r Dreigiau, cic gyntaf am 15:05, cyn i’r Gleision groesawu’r Gweilch i’r stadiwm cenedlaethol.

Mae’r prif hyfforddwr Wayne Pivac wedi eni tîm cry far gyfer y rownd arferol olaf gyda’r Scarlets yn y ras i sicrhau gêm gartref yn rownd y cwarteri penwythnos nesaf.

Mae’r Scarlets yn yr ail safle yn Adran B gyda Chaeredin ond pwynt tu ôl i’r rhanbarth. Fe fydd Caeredin yn gobeithio sicrhau buddugoliaeth dros Glasgow er mwyn goddiweddid y Scarlets a chael gêm gartref eu hunain.

Un newid sydd yna i’r chwaraewyr yn y linell gefn gyda Ioan Nicholas yn do di mewn ar y fainc. Mae Leigh Halfpenny ym symud yn ôl i safle’r cefnwr gyda Rhys Patchell yn safle’r maswr, sy’n gweld Dan Jones yn symud i’r fainc. Fe fydd y canolwr Scott Williams yn arwain y tîm yn ei gêm Dydd y Farn olaf i’r Scarlets.

Daw Ryan Elias i mewn i’r reng flaen ochr yn ochr â Rob Evans a Samson Lee gyda Ken Owens yn symud i’r fainc. Mae Lewis Rawlins a Steve Cummins yn cyfuno yn yr ail reng gyda Tadhg Beirne yn symud i’r blaenasgell i bartneri James Davies a Will Boyde yn y reng ôl.

Dywedodd Pivac; “Mae’r chwaraewyr eisiau mynd yn syth yn ôl i’r cae. Ry’n ni’n rhoi’r tîm cryfaf posib yn ein barn ni, gan ystyried llwyth gwaith rhai o’r chwaraewyr na fydd yn chwarae.

“Ry’n ni’n benderfynol iawn o gael perfformiad da ar ôl penwythnos diwethaf. Mae’n rhaid parchu pob gwrthwynebydd neu fe fyddwn ni’n colli ffocws ac yn methu a sicrhau perfformiad da.”

.

Tîm y Scarlets i wynebu’r Dreigiau yn Stadiwm Principality, Sadwrn 28ain Ebrill, cic gyntaf 15:05;

15 Leigh Halfpenny, 14 Ioan Nicholas, 13 Scott Williams ©, 12 Hadleigh Parkes, 11 Steff Evans, 10 Rhys Patchell, 9 Gareth Davies, 1 Rob Evans, 2 Ryan Elias, 3 Samson Lee, 4 Lewis Rawlins, 5 Steve Cummins, 6 Tadhg Beirne, 7 James Davies, 8 Will Boyde

Eilyddion; 16 Ken Owens, 17 Phil Price, 18 Werner Kruger, 19 David Bulbring, 20 John Barclay, 21 Jonathan Evans, 22 Dan Jones, 23 Steff Hughes