Y diweddaraf o’r paratoadau cyn dechrau’r tymor ym Mharc y Scarlets

Kieran Lewis Newyddion

Wrth i’r Scarlets barhau â’u paratoadau ar gyfer yr ymgyrch sy’n prysur agosáu, cafon ni gyfle am sgwrs gydag hyfforddwr y blaenwyr, Ioan Cunningham, am y cynnydd sy’n digwydd yn yr wythnosau agoriadol.

Mae Cunningham, ynghŷd ag hyfforddwr yr olwyr Dai Flanagan, hyfforddwr cynorthwyol ymosod Richard Whiffin a phennaeth cryfder a chyflwr Huw Davies, wedi gweld y chwaraewyr yn arddangos eu sgiliau a’u safon yn ystod sesiynau hyfforddi yng Ngholeg Sir Gar ac ar gae ymarfer Parc y Scarlets.

Ar hyn o bryd, mae’r garfan yn ymarfer heb eu haelodau rhyngwladol wrth i Gwpan Rygbi’r Byd agosáu yn nhymor yr Hydref.

Mae 14 chwaraewr gyda charfan Cymru mewn gwersyll yn y Swistir; bu Blade Thompson ym Mhoritwgal gyda charfan yr Alban, tra bod Kieron Fonotia (Samoa) a Sam Lousi (Tonga) yn paratoi i ymddangos yng Nghwpan Cenhedloedd y Môr Tawel yn ddiweddarach y mis hwn.

Dechreuodd y grŵp cyntaf o chwaraewyr hyfforddi fis diwethaf, gan gynnwys rhai aelodau o Academi’r Scarlets, wrth i chwaraewyr megis Johnny McNicholl, Josh Macleod, Werner Kruger, Steff Hughes, Steve Cummins a’r chwaraewr newydd Tom James ymuno ddechrau’r wythnos hon.

Dywedodd Cunningham: “Mae wedi bod yn dda. Roedd 38 o fechgyn mas yn ymarfer gyda ni’r wythnos hon. Roedd y grŵp cyntaf mewn am bythefnos ac mae seiliau cadarn wedi eu gosod wrth i grŵp ehangach ymuno erbyn hyn.

“Mae bechgyn fel Lewis Rawlins, Tom Prydie a Daf Hughes hefyd sydd yn dychwelyd ar ôl triniaethau a dydyn nhw ddim yn rhy bell chwaith. Maent ar ochr y cae yn rhedeg ac yn nesáu at sesiynau’r tim bob dydd.”

Mae disgwyl i’r prif hyfforddwr Brad Mooar a’r hyfforddwr amddiffyn Glenn Delaney gyrraedd Llanelli yn ystod y mis wrth i’r Scarlets ffocysu ar benwythnos agoriadol y Guinness PRO14 ddiwedd mis Medi, ychydig yn hwyrach eleni oherwydd Cwpan y Byd.

Wrth ofyn am unrhyw newidiadau yn ystod y paratoadau cyn y tymor, ychwanegodd Cunningham: “A bod yn onest, rydym wedi cyflwyno rygbi’n gynnar iawn eleni.

“Mae Brad wedi pwysleisio’i ddymuniad fod rygbi’n cael ei gyflwyno o’r dechrau ac rydw i, Richard Whiffin a Dai Flanagan wedi cychwyn arni gyda’r bechgyn yn ymateb yn dda iawn gan fwynhau’r rhaglen.

“Does dim llawer o amser nawr cyn i Brad ymuno â ni a bydd Glenn (hyfforddwr amddiffyn) yma erbyn diwedd wythnos nesaf. Rydym yn edrych ymlaen i’r tim cyfan ymuno â ni ac nid yw hynny’n bell o ddigwydd.

Mae Cunningham hefyd wrth ei fodd gyda dylanwad y chwaraewr newydd; Tom James, Danny Drake, Dane Blacker and Alex Jeffries.

“Mae’n nhw i gyd wedi cyfrannu rhywbeth, sydd yn bwysig iawn ac yn union beth roeddem ni eisiau.

“Mae Brad yn credu’n gryf mewn ‘ennill y foment’, a dyna’r thema rydym yn ceisio’i wthio ar bawb.”