Y Scarlets yn gymwys i Gwpan Pencampwyr yn dilyn noson wallgof ym Mharc y Scarlets

CANLYNIADAU
Scarlets V Connacht
22 MAW 2021 KO 20:00 | Parc y Scarlets
41
 
36
Guinness PRO14
Att.: 0 Premier Sports
CERDYN SGORIO
Scarlets Connacht
BUDDUGOLIAETHAU
23
13
COLLEDION
13
23
CYFARTAL
1
1

Mae'r Scarlets wedi sicrhau eu lle yng Nghwpan Pencampwyr Heineken y tymor nesaf yn dilyn gêm anghredadwy yn erbyn Connacht ym Mharc y Scarlets.

Yn un o'r gemau mwyaf nodedig yn nhymor y Guinness PRO14, roedd y tîm cartref yn colli o 33-12 ar yr hanner cyn achub y noson gan sgori 29 o bwyntiau yn yr ail hanner.

O'r cychwyn hyd at y chwiban olaf, roedd digon o fwrlwm. O'r ail funud pan llwyddodd Aaron Shingler i roi'r Scarlets ar y blaen hyd at yr amddiffyn cryf yn cadw'r talaeth Gwyddelig rhag y llinell a chipio'r fuddugoliaeth.

Mae'r pum pwynt, ynghyd buddugoliaeth Gleision Caerdydd yn erbyn Caeredin ym Mharc yr Arfau, yn golygu bod y Scarlets wedi gorffen yn y trydydd safle yng Nghynhadledd B.

Roedd y dechreuad disglair gan y tîm cartref yn golygu gweld Shingler yn croesi am ei gais cyntaf ers dychwelyd o'i anaf.

Ymatebodd Connacht yn gyflym ac yn gryf, a'r pwysau yn arwain at cerdyn melyn i'r bachwr Marc Jones. Er ymdrech amddiffynol y Scarlets, fe lwyddodd Connacht i dorri trwy a'r cefnwr John Porch sgorodd.

Roedd Connacht yn dathlu eu hail gais rhai munudau yn ddiweddaraach gan ddiolch i'r wythwr Abraham Papalii, wedyn i'r Scarlets ymateb gyda chais gan Tom Rogers, ond i'r dyfarnwr teledu ymyrryd a barnu dim cais a wnaeth sylwi ar ben-elin y prop Pieter Scholtz mewn dacl anghyfraethlon a achosodd iddo cael ei ddanfon i'r gell cosb.

Manteisiodd yr ymwelwyr gan rhedeg groes-cae am eu trydydd cais o'r noson trwy'r canolwr Sean O'Brien.

Y Scarlets yn taro nôl gyda phas uchel wrth Steff Evans draw at Steff Hughes a groesodd am ei gais cyntaf o'r noson, a'r trosiad gan Dan Jones, ond roedd gweddill yr hanner yn berchen i Connacht.

Y prop Dominic Robertson-McCoy a'r mewnwr Kieron Marmion yn ychwanegu at geisiau'r ymwelwyr cyn yr egwyl wrth i Connacht arwain y sgôr, ond y gêm yn cael'i throi ar ei phen wrth ailddechrau.

Yr eilydd Johnny Williams yn amlwg yn creu effaith wrth pweru trwy a dadlwytho i Steff Hughes a groesodd am ei ail gais, gyda Sam Lousi yn gweld cyfle a ffeindio'r mewnwr Dane Blacker a wnaeth sgori ei chweched gais o'r ymgyrch a sgori cais pwynt bonws y Scarlets.

Llwyddodd trosiad Jones i helpu'r Scarlets lleihau'r gap gyda hanner awr ar ôl ar y cloc a pedair munud yn ddiweddarach roedd y tîm cartref yn sgori ei pumed gan ddiolch i Tom Rogers.

Symudodd Rogers o safle'r cefnwr i'r asgell ar yr egwyl a wnaeth y chwaraewr ifanc dangos ei ddoniau gan ochrgamu ei wrthwyneb cyn rasio i gornel y cae am gais.

Trwy gwaith caled parhaol, fe lwyddodd y Scarlets i arwain y sgôr ar y 59fed munud trwy cic gosb Dan Jones ac roedd hi'n fantais heb ei ail.

Mwy o bwysau yn arwain at cic gosb arall a'r Scarlets yn dewis i fynd am y llinell yn hytrach na'r pyst, penderfyniad doeth wrth i'r prop Javan Sebastian sgori cais o agos.

Jones wnaeth ymestyn y sgôr allan er i'r eilydd Jack Carty glanio cic gosb ar y 79fed munud i Connacht, ond llwyddodd y Scarlets i ddal ymlaen i'r fuddugoliaeth yn dilyn noson anghredadwy.

CANLYNIADAU
Scarlets V Connacht
22 MAW 2021 KO 20:00 | Parc y Scarlets
41
 
36
Guinness PRO14
Att.: 0 Premier Sports

CERDYN SGORIO
Scarlets   Connacht
CAIS
Dan Jones(4)
TRO Conor Fitzgerald(4)
Dan Jones
GOSB Jack Carty
- ADLAM -
Marc Jones
Pieter Scholtz
YC -
- RC -
GOSB - Gol Gosb, ADLAM - Gol Adlam,
TRO - Trosiad, CAIS - Cais

BEN WRTH BEN

ScarletsConnacht
Aaron Shingler
Steffan Hughes(2)
Javan Sebastian
Dane Blacker
Tom Rogers
CAIS Kieron Marmion
Sean O'Brien
Abraham Papalii
Dominic Robertson-McCoy
John Porch
Dan Jones(4)
TRO Conor Fitzgerald(4)
Dan Jones
GOSB Jack Carty
- ADLAM -
Marc Jones
Pieter Scholtz
YC -
- RC -
GOSB - Gol Gosb, ADLAM - Gol Adlam,
TRO - Trosiad, CAIS - Cais