Dreigiau yn dathlu eu buddugoliaeth Cwpan yr Enfys yn Rodney Parade

CANLYNIADAU
Dragons V Scarlets
25 EBR 2021 KO 13:00 | Rodney Parade
52
 
32
ess PRO14 Rainbow Cup
Att.: 0 Premier Sports
CERDYN SGORIO
Dragons Scarlets
BUDDUGOLIAETHAU
17
36
COLLEDION
36
17
CYFARTAL
0
0

Y Scarlets yn colli i'r Dreigiau o 52-32 yn ngêm agoriadol Cwpan yr Enfys yn Rodney Parade.

Sgoriwyd deuddeg o geisiau rhwng y ddau dîm yn ystod gêm egnïol iawn, ond er i ni arwain ar yr hanner, fe lwyddodd y Dreigiau i daro nôl a profi eu werth yn yr ail hanner.

Ein mewnwr Dane Blacker sefodd allan o ran perfformiad, gan sgori un allan o'n pump cais, wrth i'n capten Ryan Elias arwain o'r blaen.

Ond y Dreigiau llwyddodd i adael eu marc yn y gystadleuaeth newydd gyda gêm egnïol iawn.

Roedd y tîm cartref ar y sgorfwrdd ar ôl ond pedair munud ar y cloc gyda'r chwaraewr serennog Jonah Holmes yn croesi'r llinell gais.

Er hyn, ymatebodd y Scarlets ar unwaith.

O'r gic gyntaf collodd Holmes y bêl, a Steff Evans yn taro nôl a'r chwaraewr rheng ôl Iestyn Rees oedd ar gael i gymryd a bêl trwy ar ei ymddangosiad cyntaf. Sam Costelow wnaeth trosi.

Y gêm yn ffrwydriadol o'r cychwyn gyda'r Dreigiau yn mwynhau'r rhan fwyaf o'r tiriogaeth a'r meddiant. Gwobr y tîm cartref oedd cais gan y cyn-scarlet Jorgan Williams a'r trosiad gan Sam Davies.

Llwyddodd Costelow i leihau'r gap gyda chic gosb o flaen y pyst, ond y Dreigiau yn dathlu unwaith eto sawl munud yn ddiweddarach gyda'u trydydd cais a'r blaenasgellwr rhyngwladol Aaron Wainwright yn croesi.

Gyda'r angen i weithio'n gyflym, wnaeth y Scarlets gweithio eu ffordd yn ôl i mewn i'r gystadleuaeth ar y 31 munud gyda chais gan Steff Evans.

Angus O'Brien ddaeth ymlaen i Tom Rogers, gan torri trwy i ffeindio'r asgellwr Blacker a wnaeth pasio allan i'w asgellwr i sgori.

Wedyn llwyddodd Blacker ei hun i groesi'r llinell gyda chais unigol arbennig i ddodi'r Scarlets ar y blaen am y tro cyntaf.

Roedd yna potensial am gais arall y tro yma gan y capten Ryan Elias, ond y dyfarnwr teledu yn penderfynu dim cais oherwydd pas ymlaen.

Erbyn yr egwyl roedd y sgôr yn dangos 22-17, ar y blaen ond nid am hir.

Davies o'r Dreigiau yn glanio cic gosb yn dilyn tair munud o'r ailddechreuad, a'r asgellwr Rio Dyer yn gwibio i ddiogelu'r pwynt bonws i'r tîm cartref.

A'r ail hanner yn gwaethygu i'r ymwelwyr wrth i'r canolwr Aneurin Owen a'r chwaraewr y gêm Holmes yn ychwanegu mwy o geisiau, gan adael y bois o'r gorllewin gyda mynydd i ddringo yng nghwarter olaf y gêm.

Steff Evans wnaeth plymio drosodd am ei hail gais pan wnaeth Johnny McNicholl rhyngipio a gwibio i lawr 50 medr gyda rhyw 10 munud ar ôl ar y cloc, roedd y sbarc wedi aildanio.

Ond y Dreigiau yn penderfynu mai nid ein gêm ni oedd hi. Wainwright yn llwyddo i groesi am ei hail gais a Davies yn ychwanegu dau cic gosb arall i ddiogelu'r buddugoliaeth i'r tîm cartref.

CANLYNIADAU
Dragons V Scarlets
25 EBR 2021 KO 13:00 | Rodney Parade
52
 
32
ess PRO14 Rainbow Cup
Att.: 0 Premier Sports

CERDYN SGORIO
Dragons   Scarlets
CAIS
Sam Davies(4)
TRO Sam Costelow(2)
Sam Davies(3)
GOSB Sam Costelow
- ADLAM -
- YC -
- RC -
GOSB - Gol Gosb, ADLAM - Gol Adlam,
TRO - Trosiad, CAIS - Cais

BEN WRTH BEN

DragonsScarlets
Jordan Williams
Jonah Holmes(2)
Rio Dyer
Aaron Wainwright(2)
Aneurin Owen
CAIS Steffan Evans(2)
Johnny McNicholl
Dane Blacker
Iestyn Rees
Sam Davies(4)
TRO Sam Costelow(2)
Sam Davies(3)
GOSB Sam Costelow
- ADLAM -
- YC -
- RC -
GOSB - Gol Gosb, ADLAM - Gol Adlam,
TRO - Trosiad, CAIS - Cais