Y Scarlets dan 16 yn gorffen eu tymor yn y Parc yn erbyn yr Exiles

Y Scarlets dan 16 yn gorffen eu tymor yn y Parc yn erbyn yr Exiles

26 Apr 2019
Y Scarlets dan 16 yn gorffen eu tymor yn y Parc yn erbyn yr Exiles
Mynd yn ôl

Daw tymor 2018/19 i ben ddydd Sul, 28 Ebrill, ym Mharc y Scarlets lle mae'r garfan gyfun dan 16 yn croesawu'r Exiles i lawr i Lanelli am ddwy gêm rygbi gyffrous. Y gêm gyntaf am 13:30 a'r ail gêm yn dilyn am 15:00.

 

Dywedodd Paul Fisher, Hyfforddwr Sgiliau Academi y Scarlets, “Mae wedi bod yn dymor gwych, rydym yn ddigon ffodus i orffen gyda gêm gyfeillgar wych yn erbyn yr Exiles. Mae wedi bod yn wych gweld y bechgyn ifanc yn datblygu fel unigolion yn ogystal fel thîm. Yn amlwg, rydym wedi gweld datblygiad o ran amddiffyn yn ogystal ag ymosod ac rydym ni fel rhanbarth yn edrych ymlaen at y tymor nesaf yn barod! ”

 

Dyma’r tîm i wynebu’r Exiles, Dydd Sul 28 Ebrill, CG 13:30, 15:00

 

Scarlets Dan 16; 15 Josh Hathaway, 14 Jack Williams, 13 Dylan Davies, 12 Aled Davies, 11 Louis Rees, 10 Osian Hill, 9 Iwan Thomas, 1 Connor Byrne, 2 Rhys Williams, 3 Max Badham, 4 Ioan Dillon, 5 Evan Sheldon, 6 Iestyn Thomas, 7 Joe Emberson-Marl, 8 Jay Guard

 

Eilyddion; Will Gaines, Tom Pritchard, Eljay Taylor, Iestyn Richards, Caleb Salmon, Ryan King, Scott Davies, Trystan Jones, Osian Evans, Ioan Phillips, Iestyn Gwilliam, Alex Wainwright, Archie Hughes, Lewis Morgan

 

Dilynwch yr holl ddiweddariadau sgôr ar gyfrif Twitter @scarletsacademy!