Cadarnhau dyddiad gêm rownd yr wyth olaf Cwpan Pencampwyr!

Cadarnhau dyddiad gêm rownd yr wyth olaf Cwpan Pencampwyr!

25 Jan 2018
Cadarnhau dyddiad gêm rownd yr wyth olaf Cwpan Pencampwyr!
Mynd yn ôl

Mae Gwener y Groglith yn addo bod yn ddydd Gwener Gwych ym Mharc y Scarlets pan fydd y rhanbarth yn croesawu La Rochelle ar gyfer rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop!

 

Fe fydd y Scarlets yn wynebu La Rochelle yng ngêm rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop ar benwythnos y Pasg gyda’r gic gyntaf am 5.30pm ym Mharc y Scarlets.

 

Fe fydd gêm rownd wyth olaf Ewropeaidd cyntaf y Parc yn sicrhau torf fwyaf y stadiwm hefyd gyda seddau ychwanegol yn cael eu hychwanegu i fynd a’r nifer i 15,000.

 

Tra bod y chwaraewyr yn paratoi ar gyfer y perfformiad ar y cae mae’r tîm oddi ar y cae yn paratoi achlysur arbennig ar gyfer cefnogwyr, partneriaid, noddwyr ac ymwelwyr.

 

Fe fydd dalwyr tocyn tymor yn gallu prynu eu sedd / tocyn sefyll presennol o 9am fory, Gwener 26ain Ionawr tan ddydd Gwener 9fed Chwefror gyda thocynnau’n mynd ar werthiant cyhoeddus tan Sadwrn 10fed Chwefror.

 

Am fanylion tocynnau cliciwch yma

 

Scarlets v La Rochelle, Rownd Wyth Cwpan Pencampwyr Ewrop, Gwener 30ain Mawrth, cic gyntaf 5.30pm.