Tocynnau rownd yr wyth olaf wedi gwerthu mas

Tocynnau rownd yr wyth olaf wedi gwerthu mas

10 Feb 2018
Tocynnau rownd yr wyth olaf wedi gwerthu mas
Mynd yn ôl

Mae tocynnau ar gyfer gêm y Scarlets yn rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop wedi gwerthu allan o fewn awr o fynd ar werth.

 

Fe fydd y gêm yn cael ei chwarae ym Mharc y Scarlets ar ddydd Gwener 30ain Mawrth, cic gyntaf 5.30pm, a hwn bydd gêm ail gyfle cyntaf i’r Parc lwyfannu.

 

Fe fydd unrhyw docynnau a bydd yn cael eu dychwelyd, gan La Rochelle neu EPCR, yn mynd ar werth ac fe fyddwn ni’n rhannu’r wybodaeth ar ein gwefan ac ar ein tudalennau cymdeithasol.

 

Hoffwn ddiolch i bawb am eich cefnogaeth ac am ein cynorthwyo i werthu allan mor gyflym! Ry’n ni hefyd yn estyn ein ymddiheuriadau i’r rheini na lwyddodd i gael tocynnau.

 

Fe fydd y garfan yn dychwelyd i’r Parc ar gyfer gemau Guinness PRO14 ar nos Sadwrn 24ain Chwefror gan wynebu Ulster.

 

Gwnewch yn siwr eich bod chi yn y pac i gefnogi’r tîm wrth i ni geisio aros ar frig Adran B.

 

Mae tocynnau i’r gêm yn erbyn Ulster a Leinster ar gael nawr yma