Davies ac Elias wedi eu rhyddhau ar gyfer y penwythnos

Davies ac Elias wedi eu rhyddhau ar gyfer y penwythnos

7 Feb 2018
Davies ac Elias wedi eu rhyddhau ar gyfer y penwythnos
Mynd yn ôl

Mae Ryan Elias a James Davies wedi eu rhyddhau o garfan Cymru ar gyfer gêm y penwythnos.

 

Fe fydd y Scarlets yn teithio i Treviso dydd Sadwrn i wynebu Benetton prynhawn Sul wrth i’r Guinness PRO14 ddychwelyd.

 

Fe fydd y ddau flaenwr yn hwb i’r hyfforddwyr wrth iddynt baratoi i enwi tîm i chwarae Benetton gyda dwy gêm yn erbyn Leinster a gêm yn Ulster i ddod yn ystod pencampwriaeth y Chwe Gwlad.