Yr hyfforddwr amddiffyn Byron Hayward i adael y Scarlets

13 Apr 2019
Yr hyfforddwr amddiffyn Byron Hayward i adael y Scarlets
Mynd yn ôl

Gall y Scarlets gadarnhau y bydd yr hyfforddwr Byron Hayward yn gadael ar ddiwedd y tymor.

Ymunodd Byron fel chwaraewr, a gafodd ddau dymor ym Mharc y Strade, â thîm hyfforddi yn 2014 a chwaraeodd ran fawr yn y Scarlets yn ennill teitl Guinness PRO12 yn 2017 a chyrraedd rownd derfynol a rownd gynderfynol Cwpan y Pencampwyr a flwyddyn ar ôl hynny.

Dywedodd Jon Daniels, rheolwr cyffredinol rygbi y Scarlets: “Mae Byron wedi bod yn aelod uchel ei barch o'n tîm hyfforddi dros y pum mlynedd diwethaf.

“Roedd llawer yn cael ei ddweud am ein gêm ymosod pan enillon ni y Bencampwriaeth ychydig flynyddoedd yn ôl, ond roedd ein hamddiffyniad yn rhan annatod o'r llwyddiant hwnnw.

“Dymunwn yn dda i Byron yn ei swydd nesaf.”

Bydd cyflwyniad yn cael ei wneud i Byron, ynghyd â'i gyd-hyfforddwyr, Wayne Pivac a Stephen Jones, yn ogystal â'r chwaraewyr Will Boyde, David Bulbring, Tom Price a Declan Smith, yn dilyn gêm Guinness PRO14 heddiw yn erbyn Zebre ym Mharc y Scarlets.