Mwynhewch benwythnos rhamantus ym Mharis

Mwynhewch benwythnos rhamantus ym Mharis

21 Nov 2018
Mwynhewch benwythnos rhamantus ym Mharis
Mynd yn ôl

Ry’n ni’n falch iawn cadarnhau y byddwn ni’n rhedeg taith i Baris ar gyfer rownd olaf Cwpan Pencampwyr Heineken ym mis Ionawr.

 

Ymunwch â ni yn ninas y cariadon wrth i cymalau Cwpan Ewrop ddirwyn i ben.

 

Mae’r pecyn, sy’n costi £169 y pen yn ddibynol ar ddau yn rhannu, yn cynnwys;

 

Gwener 18fed i Sul 20fed Ionawr;

  • Bws i adael Parc y Scarlets (Gwener) am 04:40 i Folkstone, gyda seibiant ar y ffordd
  • 12:30 Croesi ar yr Eurotunnel i Calais
  • Cyrraedd gwesty Hotel Ibis La Defense Centre tua 18:00
  • 2 noson gwely a brecwast cyfandriol
  • Gwesty o fewn cyrraedd y stadiwm ar droed
  • Bws i adael (Sul) ar ôl brecwast i wneud y daith yn ôl i Calais
  • 12:30 croesi ar yr Eurotunnel
  • Cyrraedd Parc y Scarlets tua 18:00

 

Pris y pen £169 gyda dau berson yn rhannu.

Pris y pen seiliedig ar ddeiliadaeth sengl £219.

 

I archebu’ch lle cysylltwch â Natalir ar 07779 789424 neu Natalie@scarlets.wales

 

Nid yw’n cynnwys tocyn i’r gêm.

 

Cysylltwch â Ann yn swyddfa docynnau’r Scarlets drwy ffonio 01554 29 29 39 neu ebostio ann@scarlets.walesam wybodaeth tocynnau gêm.