Olwyr cyffrous yn barod i wynebu Ulster

Olwyr cyffrous yn barod i wynebu Ulster

23 Feb 2018
Olwyr cyffrous yn barod i wynebu Ulster
Mynd yn ôl

Fe fydd y Scarlets yn wynebu Ulster nos Sadwrn wrth i’r Guinness PRO14 ddychwelyd i Barc y Scarlets.

 

Mae’s Scarlets wedi enwi 23 cyffrous ar gyfer y gêm nos Sadwrn gan obeithio dychwelyd i fuddugoliaethau a chadw’r pwysau ar Leinster sydd ar y brig ar hyn o bryd.

 

Fe fydd yr asgellwr Corey Baldwin yn dechrau ei gêm gyntaf yn y Guinness PRO14 wrth iddo bartneri Tom Williams a Ioan Williams yn y tri ôl.

 

Fe fydd Steff Hughes yn arwain y tîm unwaith eto gyda Paul Asquith yn ymuno ag ef yng nghanol cae. Mae Dan Jones a Jonathan Evans yn cadw eu llefydd fel maswr a mewnwr.

 

Does dim newidiadau i’r pac o wythnos diwethaf gyda Ryan Elias a James Davies wedi dychwelyd o garfan Cymru.

 

Fe fydd y bachwr Emyr Phillips yn cyrraedd carreg filltir o 150 o gemau i’r Scarlets oddi ar y fainc. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr fe fydd Ioan Hughes yn chwarae ei ail gêm i’r rhanbarth gyda’r asgellwr Ryan Conbeer yn gobeithio chwarae ei gêm gyntaf erioed yn y Guinness PRO14.

 

Dywedodd Wayne Pivac; “Mae gyda ni’r cyfle i greu bach o le rhyngom ni ag Ulster a rhoi hwy o dan bwysau.

 

“Ry’n ni’n gwybod hefyd os na gewn ganlyniad fe fydd y bwlch hwnnw’n cau. Gyda Leinster o’n blaenau wythnos nesaf mae’n mynd i fod yn gyfnod heriol. Ry’n ni’n gweithio’n galed gyda’r grwp i baratoi ein hunain am yr hyn sydd i ddod.

 

“Mae yna awyrgylch da yma ond maent hefyd yn siomedig gyda’r ddwy gêm diwethaf. Maent yn benderfynol o sicrhau canlyniad penwythnos yma. Beth sydd angen arnom ni yw torf cartref tu ôl i ni fel ei fod yn gêm gwpan Ewropeaidd. Yn nhermau y PRO14 mae’r wythnosau nesaf yma yn holl bwysig.”

 

Tîm y Scarlets i wynebu Ulster ym Mharc y Scarlets ar nos Sadwrn 24ain Chwefror, cic gyntaf 19:35;

 

15 Tom Williams, 14 Corey Baldwin, 13 Paul Asquith, 12 Steff Hughes ©, 11 Ioan Nicholas, 10 Dan Jones, 9 Jonathan Evans, 1 Dylan Evans, 2 Ryan Elias, 3 Werner Kruger, 4 Steven Cummins, 5 David Bulbring, 6Tadhg Beirne, 7 James Davies, 8 Josh Macleod

 

Eilyddion; 16 Emyr Phillips, 17 Phil Price, 18 Simon Gardiner, 19 Lewis Rawlins, 20 Will Boyde, 21 Declan Smith, 22 Ioan Hughes, 23 Ryan Conbeer