Gwersyll Hanner Tymor – archebwch nawr

Gwersyll Hanner Tymor – archebwch nawr

5 Feb 2018
Gwersyll Hanner Tymor – archebwch nawr
Mynd yn ôl

Ydych plant chi rhwng 6 ac 11 oed? Beth am archebu lle ar un o'n Gwersylloedd Rygbi Hanner Tymor?

Fe fydd y Scarlets yn cynnal gwersyll dau ddiwrnod ym Mharc y Scarlets yn ogystal â Gwersyll i Ferched yn unig (6-15 mlwydd oed).

Mae'r gwersylloedd yn rhoi cyfle i chwaraewyr rygbi ifanc i ddatblygu eu sgiliau gyda Hyfforddwyr Sgiliau'r Scarlets ynghyd â rhai o sêr y rhanbarth.

Fe fydd y plant yn derbyn crys-t Scarlets ond hefyd yn derbyn tocyn i gêm Scarlets v Ulster yn y Guinness PRO14.

Pris gwersyll dau ddiwrnod yw £40 neu £25 os ydych ond yn gallu mynychu un diwrnod. Pris y Gwersyll Merched yn unig yw £15.

Fe fydd eich plentyn yn derbyn y canlynol;

  • Crys-t y Scarlets
  • Tocyn am ddim i gêm Scarlets v Ulster yn y Guinness PRO14
  • Cyfle i gyfarfod rhai o'r chwaraewyr

Dyddiadau Gwersylloedd Hanner Tymor y Scarlets;

  • Llun & Mawrth 19eg & 20fed Chwefror
  • Iau 22ain Chwefror

I archebu lle cysylltwch â'r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39.