Cadarnhau Rownd 18 ac 19 Guinness PRO14

Cadarnhau Rownd 18 ac 19 Guinness PRO14

19 Feb 2018
Cadarnhau Rownd 18 ac 19 Guinness PRO14
Mynd yn ôl

Mae diwrnod ac amserau cic gyntaf Rownd 18 ac 19 Guinness PRO14 wedi eu cadarnhau.

 

Fe fydd y Scarlets yn wynebu Munster ym Mharc Thomond ar ddydd Sadwrn 24ain Mawrth, cic gyntaf 17:30, gyda’r gêm yn fyw ar Sky.

 

Byddwn ni’n croesawu Glasgow i’r Parc ar ddydd Sadwrn 7fed Ebrill, cic gyntaf 16:15, yng ngêm gartref olaf y tymor yn y gemau arferol.

 

Fel mewn tymhorau cynt fe fydd y gêm yn gyfle i gefnogwyr, hyfforddwyr a chyd-chwaraewyr i ffarwelio â’r chwaraewyr sy’n symud ymlaen i ddechrau pennod newydd yn eu gyrfaoedd.

 

Cefnogwch y Scarlets yn y Parc nos Sadwrn pan fyddwn ni’n wynebu Ulster, cic gyntaf 19:35.

 

Mae tocynnau ar gael nawr o eticketing.co.uk/scarletsrugby