Hughes i arwain y Scarlets

Hughes i arwain y Scarlets

9 Feb 2018
Hughes i arwain y Scarlets
Mynd yn ôl

Fe fydd canolwr y Scarlets a chyn gapten Cymru dan 20 Steff Hughes yn arwain y Scarlets i’r cae yn erbyn Benetton Rugby dydd Sul.

 

Fe fydd Guinness PRO14 yn dychwelyd ar ôl seibiant gyda’r bachwr Ryan Elias a’r blaenasgellwr James Davies yn dychwelyd o garfan Cymru.

 

Daw’r cefnwr Johnny Mcnicholl yn ôl i mewn i’r garfan ar ôl anafu ei ysgwydd yn y gêm ddarbi yn erbyn y Gweilch. Mae Tom Prydie a Ioan Nicholas yn ymuno ag ef yn y tri ôl. Mae Paul Asquith yn ymuno â’r capten Hughes yn y canol gyda Dan Jones a Jonathan Evans yn cyfuno yn yr hanneri.

 

Mae Dylan Evans a Werner Kruger yn ymuno â Ryan Elias yn y reng flaen gyda David Bulbring yn ennill ei hanner canfed gap yn yr ail reng. Fe fydd Davies yn ymuno â Tadhg Beirne a Will Boyde yn y reng ôl.

 

Tîm y Scarlets i wynebu Benetton Rugby yn Stadio Communale di Monigo, Sul 11eg Chwefror cic gyntaf 14:05 (amser lleol);

 

15 Johnny Mcnicholl, 14 Tom Prydie, 13 Paul Asquith, 12 Steff Hughes ©, 11 Ioan Nicholas, 10 Dan Jones, 9 Jonathan Evans, 1 Dylan Evans, 2 Ryan Elias, 3 Werner Kruger, 4 Lewis Rawlins, 5 David Bulbring, 6 Tadhg Beirne, 7 James Davies, 8 Will Boyde

 

Eilyddion; Taylor Davies, Rhys Fawcett, Simon Gardiner, Steve Cummins, Josh Macleod, Declan Smith, Corey Baldwin, Tom Williams