Diweddariad anaf: Cassiem

Diweddariad anaf: Cassiem

30 Aug 2018
Diweddariad anaf: Cassiem
Mynd yn ôl

Fe ddioddefodd wythwr y Scarlets Uzair Cassiem anaf i’w goes yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Caerfaddon nos Wener 24ain Awst.

 

Cafodd y chwaraewr rhyngwladol sgan ar ei goes dydd Mawrth er mwyn deall difrifodleb yr anaf.

 

Mae canlyniadau’r sgan yn dangos bod Cassiem wedi dioddef anaf i fol ei goes (calf)ac mae disgwyl iddo ddychwelyd i’r cae o fewn pedair wythnos.