Mae lansiad ein pecynnau tocynnau tymor ar gyfer 2019-20

12 Apr 2019
Mae lansiad ein pecynnau tocynnau tymor ar gyfer 2019-20
Mynd yn ôl

Wrth i Wayne Pivac a'i garfan barhau i geisio cyrraedd y drydedd rownd derfynol yn olynol Guinness PRO14, mae cyfnod newydd beiddgar yn aros am ein cefnogwyr o dan yr hyfforddwr newydd Brad Mooar.

Bydd Brad yn etifeddu carfan sy'n llawn dalent ryngwladol, arwyr Gamp Lawn sy'n cynnwys Ken Owens, Jonathan Davies a Rob Evans, sydd i gyd wedi cytuno ar gytundebau newydd, yn ogystal â chwaraewyr ifanc hynod o dalentog a chyfres o sêr cyffrous tramor.

Mae'r rheini'n cynnwys;

  1. Buddion partner unigryw gyda thalebau gwerth hyd at £500
  2. Am y tro cyntaf, arbedion o 10% ar nwyddau'r Scarlets
  3. Ffenestr unigryw i brynu tocynnau ar gyfer gemau “knock-out” ym Mharc y Scarlets
  4. Cyfle i ddod â ffrind am ddim i un o'n gemau PRO14 cartref
  5. Arbedion o 10% ar becynnau lletygarwch

Cadwch lygad ar wefan y Scarlets www.scarlets.wales a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth dros yr wythnosau nesaf.

Byddwch yn rhan o'r pac #YNYPAC