Cenhedlaeth nesaf yn gobeithio sicrhau wythfed buddugoliaeth

Cenhedlaeth nesaf yn gobeithio sicrhau wythfed buddugoliaeth

23 Jan 2018
Cenhedlaeth nesaf yn gobeithio sicrhau wythfed buddugoliaeth
Mynd yn ôl

Fe fydd Scarlets dan 18 yn teithio i’r brifddinas heno i wynebu Gleision (De) ym mhencampwriaeth Graddau Oed URC.

 

Fe fydd y Scarlets yn chwarae eu hwythfed gêm gyda’r genhedlaeth nesaf yn gobeithio sicrhau eu hwythfed buddugoliaeth.

 

Mae’r saith buddugoliaeth hyd yn hyn wedi gweld y tîm ifanc yn sicrhau buddugoliaethau pwynt bonws ac maent ymhell ar frig y tabl.

 

Yn dilyn gêm heno dwy gêm yn unig bydd yn weddill gyda’r tîm ifanc, yn gyntaf yn erbyn y Gweilch yn Llandarcy wythnos nesaf ac yna’r gêm olaf yn erbyn Gleision (Gogledd) ym Mharc y Scarlets ar nos Fawrth 6ed Chwefror.

 

Scarlets dan 18 i wynebu Gleision (De) ym Mharc yr Arfau, Mawrth 23ain Ionawr cic gyntaf 7.15pm;

 

15 Dean James, 14 Harri Dole, 13 Joe Roberts, 12 Osian Knott, 11 Alex Varney, 10 Llew Smith, 9 Dafydd Land, 1 Callum Williams, 2 Llew Phillips-Taylor, 3 Adam Thomas, 4 Griff Evans, 5 Jac Price, 6 Harry Breeze, 7 Gethin Davies ©, 8 Sam Williams

 

Eilyddion: Rhodri King, Keelan Jewell, Iwan Twigg, Owen Jones, Iestyn Reesm Dai Jones, Bradley Roderick, Liam Cox