Pivac; “Roedd Glasgow’n haeddu’r fuddugoliaeth,”

Pivac; “Roedd Glasgow’n haeddu’r fuddugoliaeth,”

1 Dec 2018
Pivac; “Roedd Glasgow’n haeddu’r fuddugoliaeth,”
Mynd yn ôl

Roedd hi wastad yn mynd i fod yn dasg anodd i’r Scarlets wrth iddynt wynebu arweinwyr Adran A Glasgow ar eu tir eu hunain ac fe osodwyd y rhanbarth dan bwysau o’r cychwyn cyntaf.

 

Gyda Chwpan Pencampwyr Ewrop yn dychwelyd wythnos nesaf fe fydd y Scarlets yn awyddus i rhoi’r perfformiad tu ôl iddyn nhw gydag angen am fuddugoliaeth dros Ulster yn y Parc i gadw’r freuddwyd Ewropeaidd yn fyw.

 

Ar ôl derbyn cerdyn goch yn gynnar yn yr hanner cyntaf roedd Glasgow lawr i 14 dyn ac fe lwyddodd y penderfyniad i sbarduno Glasgow i berfformiad gref.

 

Tarrodd y Scarlets yn ôl yn hwyr yn yr ail hanner gyda dwy gais ond Glasgow a lwyddodd i sicrhau’r fuddugoliaeth ac atal y Scarlets rhag casglu pwynt bonws pwysig.

 

Wrth ymateb i’r gêm dywedodd Wayne Pivac; “Roedd Glasgow’n llawn haeddu’r fuddugoliaeth ac fe fyddai wedi bod yn anheg iawn petai ni wedi dwyn y pwynt yna ar ddiwedd y gêm.

 

“Fe enillodd Glasgow y frwydr yn ardal y dacl. Fe wnaethon nhw daflu eu hunain at bob peth, gorfodir Scarlets i wneud camgymeriadau ac fe wnaethon nhw’n cosbi ni.

 

“Nid oedd ein disgyblaeth ni’n ddigon da ac fe wnaethon ni siomi’n hunain heno.

 

“Mae gyda ni chwech diwrnod i wirdroi’r perfformiad yna. Ar hyn o bryd ry’n ni’n siomedig iawn gyda’n perfformiadau ni oddi cartref ac yn hapus iawn gyda’n perfformiadau ni adref. Mae’n rhaid i hynny newid os ydym am wneud yn dda yn y cystadleuaethau yma.”

Fe fydd y Scarlets yn dychwelyd i Barc y Scarlets ar nos Wener 7fed Rhagfyr i wynebu Ulster yng Nghwpan Pencampwyr Heineken, cic gyntaf 19:45.

 

Mae tocynnau ar gael nawr o tickets.scarlets.wales