Quins, Porthmyn a Llanelli – Diolch!

Quins, Porthmyn a Llanelli – Diolch!

2 Feb 2018
Quins, Porthmyn a Llanelli – Diolch!
Mynd yn ôl

Gyda rownd olaf gemau grwp Cwpan Eingl-Gymreig yn cael eu chwarae dros y penwythnos ry’n ni eisiau cymryd y cyfle hwn i ddiolch i Quins Caerfyrddin, Llanymddyfri a Llanelli am eu cefnogaeth.

 

Mae’r rhan helaeth o chwaraewyr sydd wedi cynrychioli’r Scarlets yng Nghwpan Eingl-Cymreig yn chwaraewyr rhannol-broffesiynol, nifer ohonyn nhw’n chwarae eu gemau cyntaf i’r rhanbarth.

 

Dywedodd Jon Daniels, Rheolwr Rygbi Cyffredinol y Scarlets; “Heb gefnogaeth ein clybiau bwydo, Quins, Llanymddyfri a Llanelli, a’r rhwydwaith o glybiau cymunedol sy’n eu cefnogi nhw, fe fyddai gêm heno wedi ei chanslo oherwydd diffyg chwaraewyr a hyfforddwyr.

 

“Mae perthynas y Scarlets gyda’n clybiau yn yr Uwchgynghrair yn un unigryw. Ry’n ni’n ymfalchio yn y berthynas agos sydd gyda ni a’r datblygiad parhaol o genhedlaeth nesaf y rhanbarth.

 

“Mae’r gefnogaeth ry’n ni’n ei dderbyn gan ein clybiau yn hanfodol bwysig oherwydd fe fyddwn ni’n wynebu tîm cryf Sale Sharks heno heb 43 o’n chwaraewyr.”

 

Gyda ugain o chwaraewyr ar ddyletswydd rhyngwladol; un-deg-pedwar gyda Chymru, un gyda’r Alban, tri gyda Chymru dan 20 a dau gyda Chymru 7 bob ochr, fe fydd y 23 i wynebu Sale heno yn cynnwys 12 chwaraewr gyda pum gêm neu lai i’r Scarlets a phump ohonyn nhw’n chwarae eu gemau cyntaf.

 

Fe fydd cystadleuaeth y Guinness PRO14 yn ôl yn ei hanterth penwythnos nesaf pan fydd y Scarlets yn wynebu Benetton Rugby cyn gemau anodd yn erbyn Leinster oddi cartref ac Ulster a Leinster ym Mharc y Scarlets yn ystod y cyfnod rhyngwladol.

 

Mae wyth chwaraewr ar y restr anafiadau yn mynd a’r nifer o chwaraewyr sy’n absennol i 28 tra bod y pymtheg arall yn cael eu gorffwys ar gyfer cyfnod anodd i’r garfan yn y Guinness PRO14.

 

Chwaraewyr sydd ddim ar gael ar gyfer gêm heno

Alban: John Barclay

Cymru: Aled Davies, Gareth Davies, James Davies, Ryan Elias, Rob Evans, Steff Evans, Leigh Halfpenny, Wyn Jones, Samson Lee, Ken Owens, Hadleigh Parkes, Rhys Patchell, Aaron Shingler, Scott Williams

Cymru dan 20: Corey Baldwin, Ryan Conbeer, Dan Davis

Wedi eu hanafu Jake Ball, Jonathan Davies, Shaun Evans, Tom Grabham, Rhys Jones, Tom Phillips, Tom Price, Declan Smith

Cymru 7 bob ochr: Billy McBryde, Morgan Williams

Paratoi at PRO14: Paul Asquith, Tadhg Beirne, Will Boyde, David Bulbring, Steve Cummins, Dylan Evans, Jonathan Evans, Steff Hughes, Dan Jones, Werner Kruger, Josh Macleod, Johnny Mcnicholl, Emyr Phillips, Tom Prydie, Lewis Rawlins