Pivac; “Roedden ni’n disgwyl gêm anodd yn erbyn y Gleision,”

Pivac; “Roedden ni’n disgwyl gêm anodd yn erbyn y Gleision,”

2 Jan 2018
Pivac; “Roedden ni’n disgwyl gêm anodd yn erbyn y Gleision,”
Mynd yn ôl

Roedd ceisiau gan yr asgellwr Tom Prydie a’r maswr Rhys Patchell yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth dros Gleision Caerdydd dydd Calan ym Mharc yr Arfau.

 

Wrth sicrhau buddugoliaeth 11-14 dros y Gleision fe sicrhaodd y Scarlets y dwbwl dros y rhanbarth hefyd ar ôl llwyddo sicrhau hynny dros y Gweilch hefyd.

 

Wrth ymateb i’r gêm yn erbyn y Gleision dywedodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac; “Mae e’n gyfnod pwysig i ni ac fe welon ni hynny y llynedd hefyd pan wnaethon ni wynebu’r Gleision ag Ulster. Ry’n ni wedi cael cwpwl o gemau agos iawn dros yr Wyl ac mae’n tueddu bod yn gyfnod lle mae lot o chwarae a llai o ymarfer.

 

“Roeddwn i’n bles iawn cael y pedwar pwynt (yn erbyn y Gleision) ar ôl gwneud wyth neu naw newid i’r tîm. Mae’n bositif ein bod ni wedi gallu defnyddio’r garfan yn ystod y cyfnod yma a chael dwy ganlyniad.

 

“Roedd angen i ni ofalu ar ôl y bêl yn yr ail hanner a cheisio rhoi cymalau at ei gilydd. Fe wnaethon ni hynny yn syth ar ôl hanner amser ac fe wnaethon ni sgori’r cais. Roedd hynny’n ddigon i ennill y gêm.

 

“Nid hwn oedd ein perfformiad gorau ond roedden ni’n disgwyl gêm anodd yn erbyn y Gleision.”

 

Fe fydd y Scarlets yn cwblhau’r triawd o gemau yn erbyn y rhanbarthau Cymreig ym Mharc y Scarlets pan fyddan nhw’n wynebu’r Dreigiau ar nos Wener 5ed Ionawr, cic gyntaf 7.35pm.

 

Mae croeso i ddalwyr tocynnau tymor dderbyn pâr o docynnau am ddim i’r gêm. I dderbyn eich tocynnau cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39.