“Mae’n bwysig i ni gadw ennill adref,” medd Pivac cyn gêm nos Wener

“Mae’n bwysig i ni gadw ennill adref,” medd Pivac cyn gêm nos Wener

2 Jan 2018
“Mae’n bwysig i ni gadw ennill adref,” medd Pivac cyn gêm nos Wener
Mynd yn ôl

Fe fydd y Scarlets yn croesawu’r Dreigiau i Barc y Scarlets nos Wener 5ed Ionawr yn y trydydd gêm ddarbi o fewn deng diwrnod gan obeithio sicrhau trydydd buddugoliaeth.

 

Fe fydd y gêm yn Adran B yn gweld y Scarlets, sydd ar frig y tabl, yn mynd wyneb yn wyneb â’r Dreigiau, sydd yn y chweched safle, tra bod Leinster ac Ulster, sydd yn ail a thrydydd yn mynd wyneb yn wyneb.

 

Wrth edrych ymlaen i’r gêm yn y Guinness PRO14 nos Wener dywedodd Wayne Pivac; “Ry’n ni’n cadw’n traed ar y ddaear. Fe fydd y Dreigiau eisiau buddugoliaeth.

 

“Mae gyda nhw chwaraewyr talentog ond gyda’r cyfnod byr rhwng y gemau yr her mwyaf sy’n ein wynebu nawr ac mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein hunain.

 

“Mae’r gemau darbi wedi bod yn gemau agos. Fe fyddwn ni’n ffocysu ar ein hunain. Mae’n gêm ddarbi arall ac ry’n ni wedi gweld dros y ddwy gêm diwethaf eu bod nhw’n gemau agos. Fe fydd hwn yn gêm gyffrous arall does dim dwywaith am hynny.

 

“Ry’n ni wedi gwneud y dwbwl dros y Gweilch a’r Gleision a hwn fydd y tro cyntaf i ni wynebu’r Dreigiau y tymor hwn. Mae’n bwysig i ni gadw ennill adref.”

 

Fe fydd y Scarlets yn cwblhau’r triawd o gemau yn erbyn y rhanbarthau Cymreig ym Mharc y Scarlets pan fyddan nhw’n wynebu’r Dreigiau ar nos Wener 5ed Ionawr, cic gyntaf 7.35pm.

 Mae croeso i ddalwyr tocynnau tymor dderbyn pâr o docynnau am ddim i’r gêm. I dderbyn eich tocynnau cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39.