Cytundeb newydd i Elias

19 Dec 2017
Cytundeb newydd i Elias
Mynd yn ôl

Mae Ryan Elias, bachwr y Scarlets a Chymru, wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r Scarlets.

 

Datblygodd Elias, o Gaerfyrddin, trwy graddau oed y Scarlets cyn ennill lle yn Academi’r rhanbarth.

 

Chwaraeodd ei gêm gyntaf i’r Scarlets ym mis Tachwedd 2013 yn erbyn Saracens yn y Cwpan Eingl-Gymreig cyn arwyddo cytundeb datblygu yn barod ar gyfer tymor 2014-15.

 

Yn dilyn anafiadau i Ken Owens ac Emyr Phillips cafodd Elias ei daflu i’r llwyfan rhanbarthol yn ei dymor proffesiynol cyntaf gan wynebu Toulon yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.

 

Mae Elias, 22 mlwydd oed, wedi chwarae 66 gêm i’r rhanbarth yn barod gan sgori tri chais.

 

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Wayne Pivac; “Ry’n ni’n falch iawn bod Ryan wedi arwyddo cytundeb newydd. Mae e’n un o’r chwaraewyr talentog ifanc sydd wedi datblygu trwy’r system yn y rhanbarth.

 

“Mae wedi datblygu i fod yn chwaraewr da iawn, mae ganddo sgil taflu da iawn ac mae e’n gryf iawn yn ardal y dacl.

 

“Mae Ryan wedi cael lot fawr o brofiad yn ifanc iawn ac mae ganddo ddyfodol mawr o’i flaen. Ry’n ni’n edrych ymlaen i’w weld yn parhau i ddatblygu.”

 

Ychwanegodd Jon Daniels, Rheolwr Cyffredinol Rygbi’r Scarlets; “Mae ein llwybr datblygu yn rhywbeth ry’n ni wedi gweithio’n galed iawn arno ac yn cymryd lot o falchder ynddo. Mae’r llwybr, a’r Academi, wedi datblygu chwaraewyr talentog iawn dros y blynyddoedd gan fynd ymlaen i gynrychioli nid yn unig y rhanbarth ond Cymru a’r Llewod hefyd.

 

“Mae Ryan yn un o chwaraewyr talentog lleol sy’n gwneud eu marc ar y rhanbarth ac ef yw’r diweddaraf i arwyddo cytundeb newydd.”

 

Dywedodd Ryan Elias; “Mae cynrychioli’r Scarlets yn rhywbeth rwyf wedi eisiau gwneud ers yn blentyn ac mae’n anrhydedd cael gwisgo’r crys. Rwy’n hapus iawn fy mod wedi arwyddo cytundeb newydd ac rwy’n edrych ymlaen i barhau â fy natblygiad yma.”