Cadarnhau dyddiadau Rownd 5 a 6 Cwpan Pencampwyr Ewrop

Cadarnhau dyddiadau Rownd 5 a 6 Cwpan Pencampwyr Ewrop

Mae’r dyddiadau a’r amseroedd ar gyfer rownd pump a chwech Cwpan Pencampwyr Ewrop wedi eu cadarnhau heddiw.

21 Dec 2017
Cadarnhau dyddiadau Rownd 5 a 6 Cwpan Pencampwyr Ewrop
Mynd yn ôl

Mae’r dyddiadau a’r amseroedd ar gyfer rownd pump a chwech Cwpan Pencampwyr Ewrop wedi eu cadarnhau heddiw.

Mae’r Scarlets yn drydydd yng ngrwp pump ar hyn o bryd ar ôl sicrhau dwy fuddugoliaeth pwynt bonws dros Benetton Rugby yn y ddwy rownd diwethaf ac yn eistedd ond pwynt tu ôl i Gaerfaddon a Toulon. Mae’r Saeson a’r Ffrancwyr yn y grwp yn hafal ar 13 pwynt.

 

Fe fydd y Scarlets yn wynebu Caerfaddon ar nos Wener 12fed Ionawr cyn croesawu Toulon i Barc y Scarlets ar gyfer nos Sadwrn 20fed Ionawr.

 

Fe fyddwn ni’n cyhoeddi manylion teithio i’r gêm yn erbyn Caerfaddon cyn bo hiryn ogystal â manylion tocynnau’r gêm yn erbyn Toulon.

 

Gemau’r Scarlets yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop;

 

Rownd 5

Gwener 12fed Ionawr, Caerfaddon v Scarlets yn y Rec, cic gyntaf 7.45pm

 

Rownd 6

Sadwrn 20fed Ionawr, Scarlets v Toulon ym Mharc y Scarlets, cic gyntaf 5.30pm