Pivac; “Fe welwyd sgîl a phendantrwydd,”

Pivac; “Fe welwyd sgîl a phendantrwydd,”

29 Dec 2017
Pivac; “Fe welwyd sgîl a phendantrwydd,”
Mynd yn ôl

Gyda chais yn eiliadau olaf y gêm yn erbyn y Gweilch fe lwyddodd y Scarlets i gipio’r fuddugoliaeth o ddwylo’u cymdogion.

 

Fe welwyd pendantrwydd a sgil gan yr eilydd Josh Macleod i ddal y bêl o gic letraws Scott Williams cyn iddo ddangos ei gryfder i groesi’r gwyngalch a sicrhau’r fuddugoliaeth.

 

Yn dilyn trosiad llwyddiannus Leigh Halfpenny roedd y sgôr terfynol yn 12-9 gyda’r Scarlets wedi sicrhau’r pedair pwynt holl bwysig i aros ar frig tabl Adran B.

 

Wrth edrych yn ôl ar y gêm dywedodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac; “Fe wnaeth yr eilyddion i gyd yn dda iawn. Roedd yna reng flaen newydd yn wynebu’r sgrym fawr olaf yna ac wrth lwyddo i droi’r bêl drosodd fe wnaethon nhw rhoi un cyfle olaf i ni. O’r fan hwnnw ymlaen fe welwyd lot o gadw pennau a sgil arbennig.

 

“Roedd yn gic arbennig gan Scott ac fe wnaeth Josh yn dda iawn i orffen y symudiad o dan bwysau!

 

“Roedd yn rhyddhad cael sicrhau’n canlyniad ar ôl mynd i bedwar dyn ar ddeg mor gynnar yn y gêm.”

 

Bu’n rhaid i’r Scarlets wynebu sefyllfa tebyg yn rownd cyn derfynol Guinness PRO12 y tymor diwethaf pan ddangoswyd cerdyn goch i Steff Evans cyn hanner amser.

 

Wrth adlewyrchu ar y ffordd yr ymatebodd y chwaraewyr dywedodd Pivac; “Ry’n ni wedi bod yn y sefyllda yna o’r blaen yn erbyn tîm da iawn. Roedd yr amodau llawer yn haws i ni amddiffyn 14 ar 15.

 

“Roedden ni’n disgwyl gêm anodd a dyna a welwyd. Roedd yn braf gweld y bois yn gweithio hyd y funud olaf ond ry’n ni hefyd yn gwybod bod angen i ni wella ein perfformiadau.”

 

Fe fydd y Scarlets yn wynebu Gleision Caerdydd ym Mharc yr Arfau ar ddydd Sul 31ain Rhagfyr cyn dychwelyd i Barc y Scarlets ar ddydd Gwener 5ed Ionawr i wynebu’r Dreigiau.

 

Mae tocynnau Scarlets v Dreigiau ar gael nawr o eticketing.co.uk/scarletsrugby.

 

Mae hawl gan bob daliwr tocyn tymor i bâr o docynnau yn rhad ac am ddim i’r gêm. I dderbyn eich pâr chi cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39 (ar agor tan 5pm Gwener 29ain Rhagfyr ac fe fydd yn ail agor am 9am Mawrth 2il Ionawr).