Williams i arwain y Scarlets yn erbyn Gleision Caerdydd

Williams i arwain y Scarlets yn erbyn Gleision Caerdydd

29 Dec 2017
Williams i arwain y Scarlets yn erbyn Gleision Caerdydd
Mynd yn ôl

Mae’r prif hyfforddwr Wayne Pivac wedi enwi ei dîm i wynebu Gleision Caerdydd ym Mharc yr Arfau ar ddydd Sul 31ain Rhagfyr.

 

Ar ôl sicrhau buddugoliaeth dros y Gweilch yn y gêm ar Wyl San Steffan fe welwyd y Scarlets yn aros ar rig tabl Adran B ac fe fydd y rhanbarth o’r gorllewin yn gobeithio gorffen y flwyddyn ar nodyn positif yn y brifddinas hefyd.

 

Fe fydd y canolwr Scott Williams yn arwain y Scarlets yn yr ail gêm ddarbi dros cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd gyda Tom Prydie a Paul Aswuith yn do di mewn ar yr asgell yn lle Johnny Mcnicholl, sydd wedi ei anafu, a Steff Evans sydd wedi ei wahardd.

 

Daw Wyn Jones a Ryan Elias i’r reng flaen gyda Werner Kruger gyda Steve Cummins yn ymuno â Tadhg Beirne yn yr ail reng.

 

Mae Josh Macleod wedi ei enwi yn safle’r blaenasgell dywyll gyda James Davies a Will Boyd ear y flaenasgell agored ac yn safle’r wythwr.

 

Wrth edrych ymlaen i’r gêm fawr yn y Guinness PRO14 dywedodd Wayne Pivac; “Mae gyda ni lot o barch tuag at y Gleision a dy’n ni’n methu colli ar ein hunain yn dilyn y canlyniad yna dydd Mawrth.

 

“Mae’n debyg iawn i’r paratoi cyn y gêm yn erbyn y Gweilch, mae canlyniadau blaenorol yn dda i ddim wrth wynebu gemau darbi. Fe welwyd hynny y nein gêm diwethaf ni yma ym Mharc y Scarlets yn erbyn y Gleision. Roedden ni ar y blaen o bymtheg pwynt ar yr hanner ac mewn amrantiaid roedden nhw’n ôl o fewn pwynt.

 

“Mae gyda nhw o chwaraewyr o safon ac maent yn dîm peryglus pan ddaw hynny i gyd ynghyd. Ry’n ni’n chwarae ar eu tir nhw ac maent yn awyddus i sicrhau’r trydydd safle yn eu grwp. Ry’n ni’n disgwyl her fawr yn eu herbyn.”

 

Tîm y Scarlets i wynebu Gleision Caerdydd, Sul 31ain Rhagfyr, cic gyntaf 3.15pm;

 

15 Leigh Halfpenny, 14 Tom Prydie, 13 Hadleigh Parkes, 12 Scott Williams ©, 11 Paul Asquith, 10 Rhys Patchell, 9 Gareth Davies, 1 Wyn Jones, 2 Ryan Elias, 3 Werner Kruger, 4 Tadhg Beirne, 5 Steve Cummins, 6 Josh Macleod, 7 James Davies, 8 Will Boyde

 

Eilyddion; Ken Owens, Rob Evans, Simon Gardiner, David Bulbring, Lewis Rawlins, Aled Davies, Dan Jones, Ioan Nicholas