Cytundeb newydd i Rawlins

Cytundeb newydd i Rawlins

30 Dec 2017
Cytundeb newydd i Rawlins
Mynd yn ôl

Mae’r Scarlets yn falch iawn cadarnhau bod y clo Lewis Rawlins wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r Scarlets.

Mae’r clo 27 mlwydd oed wedi ymestyn ei gyfnod gyda’r Scarlets ar ôl arwyddo ei gytundeb proffesiynol llawn cyntaf gyda’r rhanbarth dwy flynedd yn ôl.

Mae Rawlins wedi ei enwi ar y fainc ar gyfer gêm dydd Sul yn erbyn Gleision Caerdydd yn y Guinness PRO14.

Chwaraeodd y blaenwr rôl allweddol yn y rownd cyn derfynol a therfynol y tymor diwethaf ac mae wedi ymuno â restr hir o chwaraewyr sydd wedi arwyddo cytundebau newydd ynghyd â Aaron Shingler, Ryan Elias, James Davies, Rhys Patchell, Wyn Jones a Dylan Evans.

Mae Rawlins yn chwaraewr amryddawn ac mae’n gallu chwarae yn y reng ôl yn ogystal a’r ail reng.

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Wayne Pivac; “Ry’n ni’n falch iawn bod Lewis wedi penderfynu aros gyda’r Scarlets. Mae e wedi datblygu trwy’r system datblygu yma ac fe chwaraeodd rôl bwysig yn llwyddiant y rhanbarth tymor diwethaf.

“Mae’r gallu i chwarae yn yr ail reng a’r reng ôl yn ei wneud yn chwaraewr pwysig iawn yn y garfan. Mae e’n athletwr ac mae e wastad yn rhoi o’i orau.”

Ychwanegodd Jon Daniels, Rheolwr Cyffredinol Rygbi’r Scarlets; “Mae Lewis wedi gwneud argraff yma dros y bedair mlynedd diwethaf ac ry’n ni’n falch iawn ei fod wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r Scarlets er gwaetha diddordeb o rhanbarthau Cymreig a chlybiau Saesneg eraill.”

 

Dywedodd Lewis Rawlins: “Rwy’n hapus iawn fy mod wedi arwyddo cytundeb newydd i aros gyda’r Scarlets. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r hyfforddwyr yn y Scarlets am rhoi cyfleoedd i mi yn y crys ac rwy’n edrych ymlaen i barhau i gynorthwyo’r garfan i’r dyfodol.”