Thomson i ymuno â’r Scarlets

Thomson i ymuno â’r Scarlets

Blade Thomson (c) Esportif
27 Feb 2018
Thomson i ymuno â’r Scarlets
Mynd yn ôl

Mae’r Scarlets yn falch iawn cyhoeddi y bydd Blade Thomson yn ymuno â’r rhanbarth ar gyfer tymor 2018-19.

 

Yn enillydd Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd ac yn chwaraewr Super Rugby profiadol mae Thomson, sy’n 27 mlwydd oed, yn chwarae i’r Hurricanes. Roedd yn aelod o dîm dan 20 Seland Newydd a enillodd Bencampwriaeth Ieuenctid y BYd yn 2010 ac fe gynrychiolodd Maori Seland Newydd am y tro cyntaf yn 2013.

 

Mae e’n chwaraewr amryddawn sy’n gallu chwarae yn safle’r wythwr, 6 ac yn yr ail reng. Fe fydd ei daldra o 198cm (6’ 5”) yn cynnig opsiwn arall yn y lein.

 

Chwaraeodd Thomson ei gêm Super Rugby cyntaf yn 2013, lle chwaraeodd ochr yn ochr â Hadleigh Parkes, ac mae wedi prof ii fod yn chwaraewr deinamig a chyflym.

 

Gwyliwch Blade Thomson ar y cae > https://vimeo.com/182201641

 

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Wayne Pivac; “Fe fydd profiad Blade o Super Rugby yn ychwanegiad da i ni yn y pac a’r garfan i gyd. Mae e’n chwaraewr athletaidd a fydd yn effeithiol wrth gario’r bêl yn y sianeli llydan ac yng nghanol cae.

 

“Mae e’n chwaraewr sy’n ennyn parch yn Seland Newydd ac er bod anafiadau wedi effeithio ar ei rygbi yn fwy diweddar mae e’n chwaraewr sydd â’r sgiliau i chwarae ein ffordd ni.”

 

Dywedodd Jon Daniels, Rheolwr Cyffredinol Rygbi’r Scarlets; “Ry’n ni eisiau cystadlu yng ngemau ail gyfle y Guinness PRO14 a Chwpan Pencampwyr Ewrop o dymor i dymor lle mae dyfnder yn y garfan yn bwysig. Fe fydd Blade yn dod â llond lle o brofiad ac ry’n ni’n edrych ymlaen i’w groesawu i Barc y Scarlets.”

 

Ychwanegodd Blade Thomson; “Rwy’n edrych ymlaen yn fwar i ymuno â’r Scarlets ar gyfer 2018-19. Maent yn chwarae brand cyffrous o rygbi, wedi gorffen tymor diwethaf fel pencampwyr ac yn dal if od yn brwydro yn y ddwy gystadleuaeth y tymor hwn. Rwy’n edrych ymlaen i ymuno â chlwb sydd mor adnabyddus ond mae fy ffocws ar hyn o bryd ar orffen y tymor ar nodyn positif gyda’r Hurricans a gobeithio codi tlws ar ddiwedd y tymor.”