Datblygu talent ifanc yn y Cwpan Eingl-Gymreig

Datblygu talent ifanc yn y Cwpan Eingl-Gymreig

2 Feb 2018
Datblygu talent ifanc yn y Cwpan Eingl-Gymreig
Mynd yn ôl

Fe chwaraeodd y Scarlets dîm ifanc ar Barc y Scarlets heno yn rownd olaf gemau’r grwpiau yn y Cwpan Eingl-Gymreig.

 

Gyda 43 chwarae yn absennol oherwydd dyletswyddau rhyngwladol, paratoadau ar gyfer gêm Guinness PRO14 wythnos nesaf ac anafiadau bu’n rhaid i’r Scarlets al war chwaraewyr o’r timau bwydo.

 

Yn union fel y gwnaeth prop y Scarlets a Chymru Rob Evans bum mlynedd yn ôl yn y gystadleuaeth yn erbyn Sale Sharks fe welwyd pump chwaraewr newydd yn chwarae eu gemau cyntaf i’r Scarlets heno.

 

Er gwaethaf y golled yn erbyn Sale Sharks mae’r bois ifanc yn llawn haeddu pob clod ac yn gallu dal eu pennau’n uchel ar ôl chwarae gydag angerdd a phendantrwydd yn ebryn gwrthwynebwyr cryf.

 

Wrth siarad ar ôl y gêm dywedodd yr hyfforddwr Euros Evans; “Ry’n ni’n bles gyda’r ymroddiad a’r ymdrech, roedd i’w weld yn glir heno fel y mae wedi bod trwy gydol yr ymgyrch.

 

“Dyma’n union roedden ni’n obeithio ei weld. Mae’n bosib mesur llwyddiant mewn ffyrdd gwahanol ac er nad ydym ni wedi ennill gêm yn yr ymgyrch ry’n ni wedi rhoi cyfle i lot o chwaraewyr ifanc ar y lefel yma. Hwn yw’r cam nesaf at y Guinness PRO14 ac mae wedi bod yn ymgyrch llwyddiannus yn nhermau rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc.

 

“Mae’r gystadleuaeth wedi gweithio o safbwynt datblygiad.”

 

Mae 24 chwaraewr wedi chwarae eu gemau cyntaf i’r rhanbarth yn ystod yr ymgyrch gyda 30 o’r 52 chwaraewr a ddefnyddiwyd o dan 23 mlwydd oed (naw o’r rheini yn eu harddegau).

 

Fe chwaraeodd James Davies, Ryan Elias, Rob Evans, Wyn Jones ac Aled Davies eu gemau cyntaf erioed i’r Scarlets yn y gystadleuaeth yma ac mae nhw gyd yng ngharfan CYmru erbyn hyn.

 

Fe fydd y Scarlets yn dychwelyd i’r Par car ddydd Sadwrn 24ain Chwefror i wynebu Ulster yn y Guinness PRO14.

 

Mae tocynnau ar gael nawr gyda gostyngiad o 20%. Cliciwch yma i’w prynu.