Scarlets ifanc i wynebu Hartpury

Scarlets ifanc i wynebu Hartpury

12 Jan 2018
Scarlets ifanc i wynebu Hartpury
Mynd yn ôl

Fe fydd Tîm Dethol y Scarlets yn wynebu Hartpury ym mhumed rownd y Cwpan Prydeinig a Gwyddelig gyda buddugoliaeth yn angenrheidiol i gadw’r ymgyrch yn fyw.

 

Mae’r tîm dethol yn y trydydd safle yn y tabl ar hyn o bryd ar ôl sicrhau buddugoliaethau dros Cornish Pirates a Hartpury adref.

 

Daw bachwr y Scarlets a Chymru Emyr Phillips yn ôl i’r cae ar ôl dioddef anaf ym mis Medi. Mae’r wythwr Jack Condy wedi ei enwi fel capten ar y tîm.

 

Yn y linell gefn mae Corey Baldwin yn paratoi i chwarae ei gêm gyntaf y tymor hwn.

 

Tîm Dethol y Scarlets i wynebu Hartpury prynhawn Sadwrn 13eg Ionawr, cic gyntaf 2.30pm;

 

15 Tom Rogers, 14 Matthew Jenkins, 13 Corey Baldwin, 12 Rhodri Jones, 11 Ryan Conbeer, 10 Rhys Jones, 9 Alex Schwartz, 1 Rhys Fawcett, 2 Emyr Phillips, 3 Javan Sebastian, 4 Josh Helps, 5 Jack Jones, 6 Chris Long, 7 Dan Davis, 8 Jack Condy ©

 

Eilyddion; Dafydd Hughes, Steff Phillips, Steff Thomas, Stuart Worrall, Lewis Ellis-Jones, Gareth George, Scott Lloyd