Gohirio Scarlets v Leinster

Gohirio Scarlets v Leinster

1 Mar 2018
Gohirio Scarlets v Leinster
Mynd yn ôl

Mae Guinness PRO14 wedi cadarnhau bod Scarlets v Leinster, a oedd i’w chwarae ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn 3ydd Mawrth, wedi ei ohirio.

 

Gyda Maes Awyr Dulyn ar gau tan ddydd Sadwrn oherwydd y tywydd gwael nid yw Leinster yn gallu teithio i Lanelli ar gyfer y gêm.

 

Fel gemau eraill Rownd 17 sydd wedi eu gohirio mae diogelwch cefnogwyr, swyddogion, chwaraewyr a staff y ddau glwb yn holl bwysig.

 

Fe fydd y gêm yn cael ei ail drefnu ac fe fyddwn ni’n cadarnhau’r dyddiad ac amser newydd cyn gynted â phosib.

 

Os ydych wedi prynu tocyn ar gyfer y gêm fe fyddan nhw’n ddilys ar gyfer y gêm pan fydd hi wedi ei hail-drefnu.