ARWYDDO'R MEWNWR JANTJIES AR FENTHYG

ARWYDDO'R MEWNWR JANTJIES AR FENTHYG

30 Nov 2017
ARWYDDO'R MEWNWR JANTJIES AR FENTHYG
Mynd yn ôl

Mae'r Scarlets wedi arwyddo'r mewnwr Herschel Jantjies ar gytundeb dros dro ar gyfer gêm dydd Sadwrn yn erbyn Cheetahs Rugby yn y Guinness PRO14.

Mae Jonathan Evans wedi dioddef anaf i'w bigwrn sy'n debygol o'i gadw oddi ar y cae am hyd at chwech wythnos sy'n gadael y Scarlets heb eilydd o fewnwr ar gyfer yr ail gêm yn Ne Affrica.

 

Mae'r Scarlets wedi gorfod galw ar y cyn fewnwr Mike Phillips i'r garfan ar gyfer y daith yn dilyn anaf i Declan Smith a Aled a Gareth Davies ar ddyletswydd rhyngwladol.

 

Mae mewnwr y Stormers Herschel Jantjies wedi arwyddo cytundeb dros dro ar gyfer gêm dydd Sadwrn.

 

Dywedodd Wayne Pivac; "Ry'n ni wedi gorfod bod yn greadigol gyda'r mewnwyr ar y daith yma!"