Teithio masnachol rownd cyn derfynol Ewrop

Teithio masnachol rownd cyn derfynol Ewrop

5 Apr 2018
Teithio masnachol rownd cyn derfynol Ewrop
Mynd yn ôl

Fe fydd y Scarlets yn wynebu Leinster yn rownd cyn derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop wrth i’r rhanbarth gyrraedd y gemau ail gyfle am y tro cyntaf ers un-ar-ddeg mlynedd ac ry’n ni eisiau gweld cynifer o gefnogwyr a phosib allan yn Nulyn i gefnogi’r bois!

 

Gyda saith bws swyddogol yn llawn yn barod ar gyfer y daith ry’n ni’n falch iawn cadarnhau ein bod ni hefyd yn cynnig pecyn masnachol, mewn cydweithrediad gyda’n partner teithio swyddogol Thomas Cook Sport.

 

Ry’n ni wedi sicrhau awyren siartedig preifat ar gyfer Noddwyr a Chefnogwyr y Scarlets. Fe fyddwn ni’n hedfan o faes awyr Caerdydd ar ddydd Gwener 20fed Ebrill, yn hedfan i Ddulyn, ac yn dychwelyd i Gaerdydd ar ddydd Sul 22ain Ebrill. 

 

  • PECYN UN:  Lle ar yr awyren yn unig: £309 y pen

Dilynwch y linc isod i archebu’ch lle:

https://www.thomascooksport.com/event/Leinster-v-Scarlets---Champions-Cup-Semi-Final-Flight-ONLY/14051

 

  • PECYN DAU:  Lle ar yr awyren gyda 2 noson yng Ngwesty Clayton Leopardstown a bws o faes awyr Dulyn i’r gwesty: o £449 y pen

Dilynwch y linc isod i archebu’ch lle:

https://www.thomascooksport.com/event/Leinster-v-Scarlets---Champions-Cup-Semi-Final/14049

 

*Mae’r clwb yn cadw’r haw li ganslo’r daith os na fyddwn ni’n gallu llenwi’r awyren, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth yn fawr.

 

Fe fydd y ddau becyn yn cynnwys y daith ar yr awyren gyda threthi, cynrychioliaeth ATOL, Thomas Cook a staff y Scarlets. Fe fydd Pecyn Dau yn cynnwys dwy noson mewn gwesty gyda brecwast a thrafnidiaeth i’r gwesty ac yn ôl i’r maes awyr.

 

Ni does tocyn gêm yn gynwysedig yn y naill becyn, fe fyddwn ni’n gallu rannu manylion tocynnau lletygarwch gyda chi yn y diwrnod nesaf.