Scarlets yn gorfod gwneud newidiadau

Scarlets yn gorfod gwneud newidiadau

Samson Lee
11 Jan 2018
Scarlets yn gorfod gwneud newidiadau
Mynd yn ôl

Fe fydd y Scarlets yn teithio i Gaerfaddon nos Wener gan obeithio sicrhau buddugoliaeth i gadw’r ymgyrch Ewropeaidd yn fyw i’r rownd grwp olaf y penwythnos wedyn.

 

Llwyddodd Caerfaddon i sicrhau buddugolaieth ym Mharc y Scarlets yn ail rownd cystadleuaeth Cwpan Pencampwyr Ewrop wedi i’r Scarlets orfod wynebu’r Saeson pum diwrnod ar ôl her corfforol yn erbyn Toulon yn Ne Ffrainc.

 

Fe fydd y timau’n mynd wyneb-yn-wyneb nos Wener gyda buddugoliaeth i’r Scarlets yn eu cadw’n fyw yn y gystadleuaeth, a chyfle go iawn i gyrraedd rownd yr wyth olaf gyda Toulon yn unig ar ôl i’w trechu ar y Parc, sialens y mae’r Scarlets wedi profi y maent yn gallu goroesi yn barod.

 

Wrth edrych ymlaen i’r gêm, gyda disgwyliadau o weld mil o gefnogwyr y Scarlets yn heidio am Gaerfaddon, dywedodd Wayne Pivac; “Fe wnaethon ni golli siap ar rhai o’r pethau sylfaenol dros cyfnod y Nadolig, ry’n ni wedi gorfod ail edrych ar rhein a gweithio ar y pethau syml. Ry’n ni wedi edrych llawer yn well yn ein sesiynau ymarfer. Mae’r cyfle i gael wythnos da o ymarfer wedi bod o fudd i ni.

 

“Mae angen i ni ail danio’r gêm ymosodol yr wythnos hon. Wrth edrych yn ôl ar y gêm diwethaf yn eu herbyn mae’n hawdd gweld eu bod nhw llawer yn fwy clinigol ac wedi cadw eu disgyblaeth yn well.

 

“Ry’n ni’n edrych ymlaen at yr achlysur yn awr. Mae e’n gêm sy’n rhaid i ni ennill. Ry’n ni’n gwybod hynny. Mae hwn yn gêm gwpan yn ei hun. Mae pobl cystadleuol yn mwynhau’r math yma o sefyllfaoedd.”

 

Tîm y Scarlets i wynebu Caerfaddon ar y Rec, nos Wener 12fed Ionawr CG 7.45pm;

 

15 Rhys Patchell, 14 Tom Prydie, 13 Hadleigh Parkes, 12 Scott Williams, 11 Paul Asquith, 10 Dan Jones, 9 Gareth Davies, 1 Rob Evans, 2 Ken Owens ©, 3 Samson Lee, 4 Tadhg Beirne, 5 David Bulbring, 6 Aaron Shingler, 7 James Davies, 8 John Barclay

 

Eilyddion; 16 Ryan Elias, 17 Wyn Jones, 18 Werner Kruger, 19 Lewis Rawlins, 20 Josh Macleod, 21 Aled Davies, 22 Steff Hughes, 23 Will Boyde (number TBC)

 

Fe fydd y Scarlets yn dychwelyd i Barc y Scarlets ar ddydd Sadwrn 20fed Ioanwr i wynebu Toulon, cic gyntaf 5.30pm. Mae tocynnau ar gael nawr o eticketing.co.uk/scarletsrugby