Y genhedlaeth nesaf yn syfrdanu ar Ddiwrnod Terfynol Cwpan y Scarlets

13 May 2019
Y genhedlaeth nesaf yn syfrdanu ar Ddiwrnod Terfynol Cwpan y Scarlets
Mynd yn ôl

Roedd yr haul yn disgleirio ar Ddiwrnod Cwpan y Scarlets llwyddiannus arall ym Mharc y Scarlets wrth i ddyfodol y rhanbarth arddangos eu talent.

Gwelodd dros 1,500 o bobl, wledd o rygbi ar draws pum gêm o dan 12 i rai dan 16 oed.

Dathlodd Cwins Caerfyrddin dlws dwbl plant dan 12 oed a phlant dan 13 oed, ac roedd buddugoliaethau hefyd i Borth Tywyn (dan 14 oed), Sanclêr (dan 15 oed) a Chaerfyrddin Athletau (dan 16 oed).

“Unwaith eto, roedd yn Ddiwrnod Cwpan y Scarlets,” meddai Chris Jones, Cydlynydd Cymunedol y Scarlets.

“Roedd rygbi disglair yn cael ei arddangos mewn amodau perffaith a thyrfa mawr yn bresennol.

“Gobeithio y byddwn yn gweld rhai o'r chwaraewyr hyn yn ôl ym Mharc y Scarlets yn chwarae mewn crys Scarlets yn y dyfodol agos.”

CANLYNIADAU

Dan 12: Cwins Caerfyrddin 12 Hwlffordd 10

Dan 13: Cwins Caerfyrddin 32 Penfro 12

Dan 14: Porth Tywyn 32 Hendy-gwyn 23

Dan 15: Sanclêr 55 Abergwaun ac Goodwick 5

Dan 16: Caerfyrddin Athletau 41 Crymych 10