CYTUNDEB NEWYDD I DAVIES

CYTUNDEB NEWYDD I DAVIES

30 Nov 2017
CYTUNDEB NEWYDD I DAVIES
Mynd yn ôl

Mae'r blaenasgellwr James Davies wedi arwyddo cytundeb newydd gyda'r Scarlets!

Mae disgwyl gweld Davies, 27, yn ôl yng nghrys y Scarlets dydd Sadwrn wrth i'r tîm wynebu Cheetahs yn Ne Affrica.

 

Bu'n rhaid i Davies dderbyn llawdriniaeth ar ei ysgwydd ar ddechrau'r tymor ar ôl iddo chwarae ond un gêm yn y Guinness PRO14.

 

Enwyd Davies yn Nhîm y Tymor 2016-17 Guinness PRO12 ar ôl iddo troi'r bêl drosodd 33 o weithiau, record yn y gynghrair.

 

Chwaraeodd ei gêm rhyngwladol gyntaf bedair blynedd yn ôl yn erbyn y Dreigiau yng Nghwpan Eingl-Gymreig tra'r oedd yn chwarae i Quins Caerfyrddin. Aeth ymlaen i wneud 22 ymddangosiad i'r Scarlets yn ei dymor proffesiynol cyntaf, gan ddechrau 16 gêm.

 

Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd Wayne Pivac; "Mae James yn aelod pwysig o'r garfan ar ac oddi ar y cae ac rwy'n falch iawn ei fod wedi arwyddo cytundeb newydd.

 

"Mae e'n arwain y ffordd ac wedi bod yn chwarae'n dda. Ry'n ni'n edrych ymlaen i barhau i weithio gydag ef dros y blynyddoedd nesaf."

 

Dywedodd James Davies; "Mae wedi bod yn ddechrau rhwystredig i'r tymor i fi yn bersonol ond rwy'n falch iawn o arwyddo cytundeb newydd.

 

"Mae'n grêt dod yn ôl i'r arfer a dod yn ôl i mewn i dîm sy'n gwneud yn dda hefyd. Rwy'n edrych ymlaen parhau â'r momentwm at ddiwedd y tymor."

 

Dywedodd Jon Daniels, Rheolwr Cyffredinol Rygbi'r Scarlets; "Ry'n ni'n falch iawn bod mewn safle cadarnhau bod James wedi ymestyn ei amser gyda'r Scarlets. Mae e'n gymeriad mawr ar ac oddi ar y cae ac mae e'n chwarae rôl bwysig yn y garfan."