Deuddeg Scarlet yng ngharfan Cymru ar gyfer gêm yr Alban

Deuddeg Scarlet yng ngharfan Cymru ar gyfer gêm yr Alban

30 Jan 2018
Deuddeg Scarlet yng ngharfan Cymru ar gyfer gêm yr Alban
Mynd yn ôl

Mae Warren Gatland wedi enwi ei dîm i wynebu’r Alban ar gyfer gêm agoriadol Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2018.

 

Mae’r tîm ar gyfer gêm gyntaf yr ymgyrch yn cynnwys dim llai na deng Scarlets yn y XV cychwynol, record i’r rhanbarth. Mae deuddeg Scarlet wedi eu cynnwys yn y 23 ar gyfer y diwrnod.

 

Mae;r Scarlets yn cynnwys reng flaen Scarlets Rob Evans, Ken Owens a Samson Lee, y tro cyntaf i hyn ddigwydd ers 1891 os yw’r llyfrau hanes i’w credu.

 

Yn ymuno â’r reng flaen yn y pac y mae Aaron Shingler gyda’r linell gefn yn llawn Scarlets ar wahan i’r asgellwr di-gap Josh Adams, sydd yn gyn-aelod o Academi’r Scarlets.

 

Chwaraeodd yr asgellwr 22 mlwydd oed ei unig gêm broffesiynol i’r Scarlets yn erbyn Gleision Caerdydd yn y Cwpan Eingl-Gymreig yn 2014. Fe fydd y Scarlets yn rhoi cyfle i dalent ifanc y rhanbarth fynd trwy eu pethau ar Barc y Scarlets nos Wener yn erbyn Sale Sharks yn yr un gystadleuaeth.

 

Tîm Cymru i wynebu’r Alban yn Stadiwm Principality, Sadwrn 3ydd Chwefror, cic gyntaf 14:15;

 

15 Leigh Halfpenny, 14 Josh Adams, 13 Scott Williams, 12 Hadleigh Parkes, 11 Steff Evans, 10 Rhys Patchell, 9 Gareth Davies, 1 Rob Evans, 2 Ken Owens, 3 Samson Lee, 4 Cory Hill, 5 Alun Wyn Jones ©, 6 Aaron Shingler, 7 Josh Navidi, 8 Ross Moriarty

 

Eilyddion: 16 Elliot Lee, 17 Wyn Jones, 18 Tom Francis, 19 Bradley Davies, 20 Justin Tipuric, 21 Aled Davies, 22 Gareth Anscombe, 23 Owen Watkin